hanes Llyn History



Hanes - Historyllyn


LLwybyr Pererindod
The Pilgrims Trail

pererin

Cerrig Arysgrifiedig
Early Christian Inscriptions

Cefndir / Backgoundanelog

Anelog

Llanaelhaearn

Llangian

Llangwnnadl

Llannor

Nefyn


Personiaid plwyfi Llŷn
yn y G18, y G19,
a hyd at y datgysylltiad

C18 and C19 vicars
for the parishes in Lleyn.


Eglwysi - Churches

Aberdaron

Abererch

Boduan

Botwnnog

Bryncroes

Clynnog

Edern

Llanaelhaearn

Llanbedrog

Llandegwnning

Llandudwen

Llanengan

Llanfaelrhys

Llangian

Llangwnnadl

Llaniestyn

Llannor

Morfa Nefyn

Nefyn

Penllech

Pistyll

Rhiw

Sarn

Tudweiliog


Y Diwigiad Protestanaidd - The reformation

Henry VIII


Capeli - Chapels

Abererch-Ebenezer

Botwnnog-Rhyd bach

Botwnog - Salem

Bryncroes-Ty Mawr

Bryncroes-Tyddyn

Capel Newydd

Edern

Efailnewydd-Berea

Hebron

Llanaelhaearn-Babell

Llanbedrog

Llaniestyn-Rehoboth

Llithfaen

Llithfaen - Nant G.

Llwyndyrys

Morfa Nefyn

Morfa - Caersalem

Nefyn-Seion

Penllech

Pentreuchaf

Penygraig

Pistyll

Rhiw-Nebo

Rhiw-Piscah

Rhos. -Bethesda

Rhos. - Saron

Rhydlios

Rhydyclafdy

Sarn - Salem

Tudweiliog

Tud. - Beerseba


Rhestr Gyflawn
o'r Capeli


Complete list
of Chapels


 

homw


Adran Crefydd - Religion Section

Cenhadwyr y 6ed Ganrif

Yn ystod y 5-6ed ganrif teithiodd y cenhadwyr cristnogol cyntaf o Gaul ar hyd arfordir Gorllewinol Prydain. Er mai'r grefydd 'swyddogol' ar ddiwedd teyrnas y Rhufeiniaid oedd Cristnogaeth. Roedd hyn yn wir ers ddechrau'r 4ydd ganrif. Nid oes dim tystiolaeth fod y llwythi o'r Iwerddon a ddaeth i ranau o arfordir Gwynedd wedi medru creu ffedarasiwn mor agos a'r gwyddelod a aeth i Benfro. Mi unodd y rhai hynu a dilyn llwybr cristnogaeth gan adael tystiolaeth o hyn.

Dim ond ar ôl i Cunedda a'r Gododdin ddod yma y ceir tystiolaeth o'r deyrnas unedig fel teyrnas gristnogol (o gwmpas 440). Cafodd rhai o feibion Cunedda enwau Cristnogol. Y Meibion hyn a ffurfiodd 'deyrnasau' yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru. O'r amser o gwmpas 500 cafwyd yr enw 'Welsh' gan y Sacsoniaid.

Tarddiodd Aflogion (Cwmwd yn Llŷn) o Aflog un o meibion Cunedda. Cafwyd Einion Yrth ac o bosibl Osmail Ynys Môn. Ond cafwyd mwy o drafferth i ddisodli y gwyddelod. Trechwyd nhw yn y diwedd gan Cadwallon Llawhir sef mab Einion yng Ngharreg y Gwyddel ger Trefdraeth.

Ceir y dystiolaeth gyntaf o Frenin yn rhoi hawliau i Gristnogaeth flodeuo yng Ngwynedd o dan ofal Maelgwn Gwynedd a farwodd yn 547. Mae hi'n bur debyg mai yn y cyfnod yma y codwyd y canolfannau crisnogaeth cynharaf yng Nghlynnog, Anelog a Bangor. Dywedid fod Maelgwn wedi traelio peth amser o dan athroniaeth Sant Illtydd.

Sant Illtud oedd penaeth y Mynachdy yn Llanilltud Fawr. Yn y fan hon y cafodd Samson, Gildas ac o bosibl Dewi eu haddysg. Illtud oedd yn gyfrifol am ffurfio patrwm i'r Eglwys gynnar. A cafodd ef a Dyfrig ddylanwad mawr ar dyfiant Cristnogaeth.

Ym Mangor a Chlynnog ceir olion o sefydliadau cynnar tebyg i'r rhai yn yr Iwerddon. Mae'n debyg bod y cerrig o Lannor sy'n dynodi marwolaeth Gwynhoedl sefydlwr Eglwys Llangwnnadl o'r cyfnod yma. Ceir hefyd brwydro cyson yn erbyn y Saeson ymlaen i'r 7fed ganrif.

Yn 577 cymerodd y Saeson Gaerfaddon gan dorri Cernyw i ffwrdd o weddill Prydain. Yn 613 gwthiodd Aethelfrith brenin Bernicia i fynny tuag at Caer. Yn y fan hon y cawn yr adroddiadau cyntaf o 200 o fynachod o Fangor Iscoed o dan arweiniaeth Brochwel ar faes y frwydyr. Rwan am y tro cyntaf roedd Cymru ar wahan i weddill Gogledd Prydain. Cadfan oedd yn teyrnasu yng Ngwynedd ar y pryd.

Edwin, dilynydd Aethellfrith oedd wedyn yn gyfrifol am yr ymgyrch mwyaf eto yn erbyn Brythoniaid y Gogledd a Chymru. Fe gymerodd Leeds, yna Ynys Manaw ac wedyn troi ei olygon tuag at ynys Môn. Cadfan, mab Cadwallon oedd yn rheoli Gwynedd ar y pryd ac rhaid oedd iddo ddenyg i ynys Llannog oddi ar Penmon. Belyn o Lŷn wnaeth atal y bygythiad ger Rhos.

Unodd Cadwallon a Penda o Mercia i atal bygythiadau Edwin o Northumbria. Gwthiodd Cadwallon ymlaen gan ladd Eanfrith o Bernicia a Osric o Deira yn y flwyddyn 634. Lladdwyd Cadwallon yn y diwedd gan ail fab Aethelfrith sef Oswald yn Heavenfield. Lladdwyd Oswald yn ei dro gan Penda yn y flwyddyn 642 yn Maserfield ger Croesoswallt.

Yn 655 lladdwyd Cadfael ap Cynfedw o Gwynedd gan Oswy, sef brawd Oswald. Ym mrwydyr Maes Winwaed. Yn y frwydyr hon cafodd Cymru ei thorri i ffwrdd o Ogledd Lloegr am y tro diwethaf gan adael i'r wlad i ddatblygu arwahan yn ieithyddol ac yn grefyddol.

O gwmpas 780 adeiladodd Offa Brenin Mercia glawdd Offa er mwyn cadw'r Cymru draw gan greu ffîn rhwng Lloegr a Chymru. Lladdwyd Caradog brenin Gwynedd gan y sacsoniaid yn 798.

Yn ystod y canrifoedd yma creuwyd Cymru fel cenedl gyda Iaith, a phobol yn byw arwahan i weddill Prydain. Roeddynt hefyd ar wahan ran cristnogaeth. Hyd nes gwnaeth yr Esgob Elfodd o Wynedd, ddod a Christnogaeth Gwynedd o dan gyfyndrefn Rhyfain wrth ddathlu y Pasg yn 768.


 

religion

 

 

 

 

 

 

Cerrig Arysgrifenedig

Ceir tystiolaeth cryf am y ffordd y daeth Cristnogaeth i Lŷn. Drwy y ffordd y mae'r cerrig arysgrifenedig hynaf i'w gweld ar hyd yr arfordir Gorllewinol. Ysgrifen Ogham sydd i'w weld ar y rhai cynharaf. Mae hyn yn dangos fod yna gysylltiadau agos a Iwerddon. Ger Bryncir mae'r engraifft agosaf o garreg sydd yn cynnwys Ogham a Lladin, yn dangos defnydd or ddwy iaith, gyda'r Lladin fel iaith yr Eglwys gynnar yn amlygu eu hun erbyn y 7fed ganrif. Y mae hyn yn debygol o fod oherwydd ymgyrchoedd cenhadwyr o Gaul. Mae'r engraifft agosaf o 'Cymraeg' cynnar i'w weld ar garreg o Towyn o'r 7fed ganrif.

Ymhlith y Seintiau cynharaf ir parthau yma roedd Beuno, Aelhaearn, Edern, Twrog a Deiniol, sef yr un sydd yn gysylltiedig a Bangor.

O'r amser 7-9fed ganrif mae'r 'groes mewn cylch' yn cymryd lle'r cerrig arysgrifenedig. Y groes yma yn seiliedig ar y symbol 'chi-ro'.


llyn

 

 

 

 

 

 

 

 

Y Diwygiad Protestanaidd

Yr oedd yr hen fynachlogydd yn Enlli a Beddgelert wedi eu hail drefnu fel tai Awstinaidd ar ol y Goncwest Normanaidd. Yr oedd gan Enlli eiddo ar y tir mawr, yn cynnwys degymau Aberdaron a nifer o blwyfi eraill yn Llŷn, ond amcangyfrifid eu holl gyllid yn ddim ond £58! adeg diddymiad y mynachlogydd. Ni wyddys nifer y mynachod yn Enlli. Dim ond tri mynach oedd ym Meddgelert a ganddynt hwy yr oedd degwm Abererch.

Diddymwyd y mynachlogydd a'r priordy oedd o fewn y dalgylch heb unrhyw ddigwyddiad o bwys yn ol pob golwg. Meddiannodd y brenin yr eiddo, a rhannodd ef i'w hoff gowrtwyr neu gwerthodd ef i fasnachwyr eiddo i'w ail werthu'n lleol. Bu Enlli a'i heiddo ar y tir mawr yn gymorth i sefydlu ffortiwn teulu Bodfel, ac aeth degymau Aberdaron, oedd yn perthyn i Enlli, yn y diwedd i deulu'r Oweniaid Plas Du. Defnyddid ty'r Abad yn Enlli fel ty annedd hyd yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond yr oedd yr eglwys yn adfeilion yn yr ail ganrif ar bymtheg.

Mae'n amlwg i'r Diddymiad fod o gymorth i gadarnhau grym a chyfoeth y bonnedd lleol; a fu'r Diddymiad yn gymorth yn ogystal i'w clymu'n dynnach wrth y Diwygiad sy'n amheus. Fel llawer o brynwyr tir y mynachlogydd, arhosodd nifer o dirfeddianwyr yn gadarn deyrngar i Rufain. Dywedir fod John ap Huw a'i fab yn reciwsantiaid ymhen chwarter canrif ar ol i Enlli dod yn eiddo iddynt. Yr oedd ei wyr, Roger Gwyn yn offeiriad cenhadol a garcharwyd yn y Twr yn adeg Iago'r Cyntaf ar gyhuddiad ffug o fod wedi cynllwynio i ladd y brenin, ac mae'n debyg mai mab arall i sefydlydd cyfoeth stad Bodfel oedd y cenhadwr a'r awdur Robert Gwyn. Yr hyn sy'n sicr yw i'r ffaith i gymaint o'r degwm fynd i ddwylo'r lleygwyr beri fod y bonheddig yn gwasgu ar yr Eglwys a thanseilio'i hanibyniaeth ymhellach.


religion

The C6 Missionaries

From Gaul, during the C5-6 Christian missionaries began arriving in Britain. Once again this Western Sea route was to have an impact on Llŷn. At the end of the Roman occupation the 'official' religion was Christian. This had been so since the early C4th , but not in Llŷn. The Irish that colonized Pembrokeshire followed a Christian path, but in Llŷn and Anglsea the Irish settlements were scattered groups without political cohesion. Through trade, culture and alliances was borne the common Goidelic tongue.

It was not until Cunedda and the Gododdin came from the North of Hadrians Wall that Llŷn became part of a truly cohesive political unit that embraced Christianity.(about 440). Some of Cuneddas sons were given Christian names, and all founded dynasties in north and Central Wales.

One, Aflog gave his name to Aflogion a Cwmwd of Llŷn. Another, Einion Yrth and possibly Osmail were given Môn, but were unable to defeat the Goidels. It was Einions son Cadwallon Llawhir who defeated them at the battle of Cerryg y Gwyddel at Trefdraeth.

Cadwallons son Maelgwn Gwynedd who reigned until 547 is said to have afforded ecclesiastical rights, and the early christian centres of Anelog and Clynnog probably flourished at around this time. One such centre was founded by St Cybi in Môn. Maelgwn is thought to have been educated by St. Illtud, who was born in Brittany and was a desciple of Germanus.

St. Illtyd became the head of the great monastry at Llantwit Major. This monastry and school was where Samson, Gildas and possibly Dewi were educated. He promoted monasticism, and had great influence on the growth of christianity along with Dyfrig.

Gwynedd remained firmly in this celtic and christian sphere throughout the next centuries and on the frontier of English expansionism through untill the C7th. Stones at Llannor marking the grave of Gwynhoedl founder of the church at Llangwnnadl are probably from this time.

In 577 the English severed land links between Wales and Conwall as they took bath. In 613 Aethelfrith who ruled over Bernicia pushed on Chester. We now have accounts of Welsh Monasticism with about 200 monks from Bangor Iscoed led by Brochwel flocking to the field of battle. Wales was now for the first time cut adrift from the Northern Britons. Gwynedds ruler at this time was Cadfan.

Edwin, Aethellfriths succesor then made a concerted attempt against the Cymru. He made inroads northward towards leeds, then took the isle of Man and attacked Môn. Cadwallon was Cadfans son and now ruled Gwynedd, he was foced to retire to ynys Llannog off Penmon. The defence of the island fell to Belyn from Llŷn who halted the onslaught near Rhos.

Cadwallon of Gwynedd now made an alliance with Penda of Mercia, defeated the Northumbrian Edwin and halted the English drive westward.He continued to harass northern England. In 634 he slew Eanfrith of Bernicia and Osric of Deira. Aethelfriths second son Oswald an earnest christian, succeeded his brother Eanfirth, killed Cadwallon and defeated his army near Heavenfield in 634. Oswald was slain by Penda at Maserfield near Oswestry in 642.

In 655 Cadafael ap Cynfedw the ruler of Gwynedd was killed by Oswy, Oswalds brother at Winwaed field. This battle finally severed Wales from the north of Britain and allowed Wales to evolve culturaly and religieously along it's own path.

Around 780 Offa the king of mercia started biulding Offas Dyke in an attempt to stop the Cymru from attacking his western lowlands. Caradog of Gwynedd died in 798 at the hands of the saxons.

  The flourishing of independance for religion and culture during this period from the continent and the rest of England and Scotland. It was not until 768 that bishop Elfodd of Gwynedd bought Welsh Ecclesiastics into step with Rome and adopted easter.


 

llyn

 

 

 

 

 

Early Christian Inscriptions

Evidence that christianity was bought to Llŷn along the western sea route is bourne out by the distribution of the early inscribed stones. As in Pembroke the earliest stones bear Ogham script the first evidence of the presence of Goidelic speaking people. These stones from around 550 ad gradualy appear with Latin inscriptions during the C6th as the first bi-lingual inscriptions and then solely in Latin towards the C7th. This suggests the influence of concerted attempts by Gaulist missionaries mirrored in west Wales, Ireland,Cornwall and Northumbria.

The most notable of these early saints is probably Beuno and with him Aelhaearn,Edern, Twrog and Deiniol credited with the eccleasiastical centre at Bangor.

From theC7-C9 the cross decorated stone (based on the chi-ro symbol ) predominates. It also coincides with a greater influence from Ireland rather than Gaul.


religion

 

 

 

 

 

 

 

 

The Reformation

The ancient Celtic monasteries of Bardsey and Beddgelert had since the Norman Conquest been reconstituted as Augustinian houses. Bardsey had property on the mainland, including the tithes of Aberdaron and of several other parishes in Llŷn, but its total revenues at the time of the dissolution were estimated at only £58; the number of monks still in residence is unknown. Beddgelert had only three monks; it possessed the tithes of Abererch .

The monasteries and the friary which lay within the area were dissolved apparently without incident. The king took the property into his hands, and either gave it away to favored courtiers or sold it to speculators who generally resold it locally, Bardsey and its mainland possessions, helped to found the fortunes of the Bodvel family; the tithes of Aberdaron, which had belonged to it, eventually passed to the Owens of Plas Du. At Bardsey the abbot's lodging was still used as a dwelling house until the early nineteenth century, but the church had fallen into ruins by the seventeenth.

That the dissolution helped to consolidate the power and wealth of the local gentry is obvious; whether, as is so often stated, it also helped to bind them to the Reformation is more doubtful. Like many purchasers of monastic land, many landowners remained staunch in their loyalty to Rome. John Wyn ap Hugh and his son were reputed recusants a quarter of a century after Bardsey came to them; his grandson Roger Gwyn was a missionary priest imprisoned in the Tower under James I on a trumped-up charge of conspiring to kill the king; and it is likely that the eminent Roman Catholic writer and missionary Robert Gwynne was another son of the founder of the Bodvel fortunes. What is certain is that the passing of so much tithe into layhands increased the pressure of the gentry on the church and further undermined its independence.


crefydd

 


 
top
 

nol

llyn

mlaen

© penLlŷn.com 2003-9