Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol


Mae rhan helaeth o Benrhyn Llyn wedi ei ddynodi fel llecynnau unigryw gan asiantaethau sy’n gwarchod cefn gwlad, ar sail y nodweddion unigryw a berthyn iddynt.


Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
  Yn 1957 dynodwyd chwarter arwynebedd Llyn yn ardal o harddwch naturiol eithriadol. Un ohonynt yw arfordir pen draw Llyn o Lanbedrog i Borth Dinllaen gan ymestyn drwy Forfa Neigwl a Nanhoron i Garn Fadrun. Y llall yw’r ardal arfordirol o Nefyn gan gynnwys Garn Boduan ac ymlaen i’r Eifl a thu hwnt i Drefor.


Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol
  Cofrestrwyd gan CADW a Chomisiwn Cefn Gwlad Cymru a sail teilyngdod diwylliannol a thystiolaeth o ddefnydd o dir dros amser. Ymhlith y nodweddion sy’n arbennig i’r ardal rhestrir trefgeyrydd Oes yr Haearn, safleoedd a chysylltiad ag olion Cristnogaeth gynnar, cloddiau a gwrychoedd, amgaeadau Deddfau Cau Tir a.y.b.


Ardal Amgylchedd Arbennig Penrhyn Llyn
  Dynodwyd Llyn yn rhan o gynllun amaethu amgylchedd i annog tirfeddianwyr i reoli tir mewn modd sydd yn llawn ystyried effaith ac anghenion yr amgylchedd.


Safleoedd o ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Mae’r ffaith fod cynifer o ardaloedd yn Llyn wedi eu dynodi fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn profi’r cyfoeth o nodweddion amgylcheddol a bywyd gwyllt unigryw a phrin sydd yma. Maen’t yn rhannu’n fras yn 2 ddosbarth:


Nodweddion Daearegol
Pwll Penallt, Y Rhiw (SH 222282)
Nant y Gadwen, Pencaerau (SH 211267)
Porth Neigwl (SH 270273)
Porth Ceiriad (SH 290252 – 324265)
Pen Bennar, Abersoch (SH 316238)
Chwarel Beudy Bigyn, Mynydd Cefnamlwch (SH 230347)

Nodweddion Bywyd Gwyllt (os ceir nodweddion daearegol yn ogystal nodir â *)
Ynysoedd Gwylan (SH 184245 a 181242)
Ynys Enlli (SH 120220)
Glannau Aberdaron (SH 167263 – 167301 *)
Mynydd Penarfynydd, Y Rhiw (SH 225265)
Penmaen, Pwllheli (SH 363348)
Aber Geirch, Edern (SH 268404)
Porth Dinllaen, Morfa Nefyn (SH 270411 – 297410 *)
Crreg y Llam, Pistyll (SH 334437)
Gallt y Bwlch, Nant Gwrtheyrn (SH 345440)
Yr Eifl (SH 365447 *)

Area of Outstanding Natural Beauty (AONB)


The majority of the Llyn Peninsula is protected by various countryside protection agencies due to its unique environmental attributes

 

Area of Outstanding Natural Beauty (AONB)
  A quarter of the land surface of Llyn was given AONB status in 1957. One of these areas stretches from Llanbedrog to Porth Dinllaen onto Morfa Neigwl and Nanhoron to Garn Fadrun. The second is the coastal stretch from Nefyn, including Garn Boduan, northwards to Yr Eifl and beyond Trefor.


Land of Outstanding Historical Interest
  Registered by CADW and The Countryside Council for Wales due to its cultural importance and evidence of continuous habitation through history. Amongst the unique local attributes are the Iron Age Forts, the remnants of Early Christian sites, Enclosures stemming from the early 19th C Enclosure Acts, etc.
 
Area of Special Natural Environment - Llyn Peninsula  
  Llyn is protected by a special agricultural environment project, which promotes sustainable farming practice.
 
Areas of Special Scientific Interest 
  The fact that so much of Llyn is protected as a Special Scientific Area proves the richness of its natural environment and the unique wildlife of flora and fauna that is found here. This category can be roughly divided into 2 sectors:
 
Geographical Attributes
Pwll Penallt, Y Rhiw (SH 222282)
Nant y Gadwen, Pencaerau (SH 211267)
Porth Neigwl (SH 270273)
Porth Ceiriad (SH 290252 – 324265)
Pen Bennar, Abersoch (SH 316238)
Chwarel Beudy Bigyn, Mynydd Cefnamlwch (SH 230347)


 
Wildlife attributes (* denotes shared geographical interest)
Ynysoedd Gwylan (SH 184245 a 181242)
Ynys Enlli (SH 120220)
Glannau Aberdaron (SH 167263 – 167301 *)
Mynydd Penarfynydd, Y Rhiw (SH 225265)
Penmaen, Pwllheli (SH 363348)
Aber Geirch, Edern (SH 268404)
Porth Dinllaen, Morfa Nefyn (SH 270411 – 297410 *)
Crreg y Llam, Pistyll (SH 334437)
Gallt y Bwlch, Nant Gwrtheyrn (SH 345440)
Yr Eifl (SH 365447 *)

 

 


 

 

 
 

© penllyn.com 2000-3