Llwybrau
y Pererinion
Efallai
nad oes yn Llyn gadeirlan ac eglwysi mawreddog fel sydd yn Nhyddewi
neu Gaerefrog, Ond dros y canrifoedd mae pobl yr ardal wedi adeiladu,
cynnal a chadw a gweddio mewn adeiladau sy'n adlewyrchu amrywiaeth
eang o arddulliau pensaerniol a dylanwadau diwylliannol.
Heddiw, mewn trefi a phentrefi ar hyd a Iled Cymru mae pensaerniaeth ddiweddarach,
a braidd yn foel, y capeli yn amlwg iawn. Er hynny, mewn cilfachau yma
a thraw, ceir mynegiant Ilawer hyn o ddefosiwn crefyddol. Eglwysi yw'r
rhain - rhai ohonynt mor fychan fel mai prin y byddai rhywun yn sylwi arnynt.
Mae nhw'n ddolen gyswllt rhyngom a dyddiau cynharaf Cristnogaeth, sef yr
Eglwys Geltaidd hynafol a ddaliodd ei thir yn yr ardal hon hyd at y drydedd
ganrif ar ddeg.
Mae traul amser wedi gadael ei ol ar lawer o'r eglwysi a restrlr yma.
ac nid yw pob un yn adeilad hynafol. Er hynny mae pob un, mewn rhyw
fodd neu'i gilydd, wedi dal ei gafael naill ai ar Wrthrychau o'r
oes Gristnogol gynnar honno, neu ar beth o ysbryd yr eglwys gynharach
oedd ar y safle, neu yn y cyffiniau, Yn y gorffennol.

Ychydig a wyddom am y rhan fwyaf o'r "Seintiau" yr enwyd yr
eglwysi hyn ar eu holau. Efallai mai cenhadon cynnar oedd rhai ohonynt,
yn cludo'r ffydd i drigolion Prydain fore, ac eraill yn feudwyaid yn
byw bywyd defosiynol syml yn yr ardal. Maen bosibl fod ambell un arall
wedi cyfrannu tir ar "fer adeiladu'r eglwysi cyntaf. (Mae'n werth
nodi yma mai' ystyr gwreiddiol y gair "Llan" oedd neilltuad
cysegredig ar gyfer addoliad a chladdedigaeth. Datblygodd yr ystyr i
olygu eglwys y sant a'i sefydlodd, tic oherwydd bod pentrefi wedi tyfu
o amgylch yr eglwysi mae Ilawer o'r pentrefi heddiw yn dwyn enw'r eglwys
wreiddiol.
Beth bynnag fo rheswm y teithiwr modern dros ddilyn Llwybr y Pererinion:
rhesymau defosiynol, diddordeb mewn pensaerniaeth, hanes neu ddiwylliant,
bydd 'pererinion' ein dyddiau ni yn sicr o gael profiad cyfoethog a fydd
yn rhoi boddhad iddynt.

Wrth ddilyn y llwybr, yr hyn fydd yn taro'r teithiwr mewn ambell fan
fydd yr ymdeimlad o unigedd a phellter oddi' wrth weddill y byd yr
union beth a ddenodd y Seintiau Celtaidd cynnar. Yn Llyn mae cyfle
o hyd i fwynhau heddwch a llonyddwch ac i fyfyrio ynghylch ystyr
bywyd yng nghanol harddwch byd natur.
Gwaetha'r modd, nid yw pob un o'r eglwysi a restrir yma ar agor bob
dydd. Mae modd trefnu I fynd i mewn i rai ohonynt (gweler yr hysbysfyrddau
y tu allan i'r eglwylsi eu hunain am fanylion Ynghylch mynediad/amser
agor.), ond efallai na fydd yn bosibl mynd i mewn i ambell un,
yn enwedig ar rai adegau o'r flwyddyn.
|
The
Pilgrims' Trail
Llyn may not be blessed with
grand cathedrals and churches, the likes of St. David's or York, but,
for centuries the people of the area have built, maintained and prayed
in buildings which reflect a wide Variety of architectural styles and
cultural influences.
Today, in towns and villages throughout the principality, it is hard to
miss the relatively recent and somewhat austere presence of chapel architecture.
Yet, hidden away, sometimes in the least likely places, there are much
older expressions of religious devotion - churches, some so small they
could be easily overlooked, which offer links back to the earliest days
of Christianity - to the ancient Celtic Church which survived in this area
until some time in the thirteenth century.

Many of the churches listed here have suffered the ravages of time and
not all are ancient buildings, but each, in its way, preserves either
artefacts from those early Christian times or something of the spirit
of an earlier church which formerly may have occupied that or a nearby
site.
Little is known of most of the "Saints" after whom these churches
have been named. Some may have been early missionaries bringing the faith
to the people of ancient Britain, whilst others may have been hermits
living simple lives of devotion in the area. Still others may have been
donors of land upon which the first churches were built. (It is interesting
to note here that the WeIsh word Llan does not actually mean "Saint",
but rather is an ancient word for a consecrated enclosure within which
worship and burial took place. It has now come to mean the church of
the founding saint and as villages have grown up around these churches
many now share the name of their original church).
Whether the modern traveller is following the Pilgrims' Trail for devotional
reasons, or whether out of an interest in architecture, history or culture,
today's 'pilgrim' is assured of a rich and rewarding experience.
Whilst following this trail the traveller will, in places, be struck
by the same sense of isolation and distance from the world as that
which first attracted the early Celtic Saints. On Llyn it is still
possible to enjoy peace and quiet and to contemplate the meaning
of life surrounded by nature's bountiful beauty.
Sadly, not all the churches listed are open daily and whilst access
to some can be arranged (see individual church notice boards for
details of keyholders /opening times), access to others may not
be possible especially at certain times of the year.

|