Treftadaeth
Glennydd Llyn
Treftadaeth
Glennydd Llyn
Rhoddwyd statws arbennig iawn i 55 milltir o arfordir
Dwyfor yn 1974 pan ddiffiniwyd ef yn arfordir treftadaeth
ar sail ei gyfoeth hanesyddol,daearyddol,
ecolegol, a daearegol. Maer arfordir yn ymestyn o Benrhyn Du, Abersoch
ymlaen o gwmpas Ynys Enlli ac ir gogledd hyd at yr Eifl ac ymlaen i Aberdesach.
Y bwriad yw gwarchod yr arfordir, i leihaur gwrthdaro rhwng ymwelwyr,
buddiannau cadwraeth a bywyd bob dydd y cymunedau lleol.
Gwneir
gwaith ymarferol ar draethau, llwybrau cyhoeddus, safleoedd
picnic a chodir waliau ac arwyddion cyfeirio. Addurnir
pob safle ag arwyddion gydar frân goesgoch yn amlwg arno.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
Ynys Enlli a Chors Geirch
Gwarchodfeydd Natur Lleol
Mae ardal Lôn Cob Bach, Pwllheli (SH 373347) wedi ei ddynodi
gan Gyngor Gwynedd oherwydd ei gwerth ecolegol lleol ar defnydd hamdden
a wneir ohoni. Maen gymharol unigryw fel Gwarchodfa Natur Leol am ei bod
yn enghraifft o wlyptir a gwastadedd llifogydd o fewn tref. Bwriedir ei hymestyn
yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Ardaloedd Cadwraeth
Dynodwyd nifer o adeiladau yn Llyn gydar bwriad ou gwarchod
a diogelu naws pentrefir ardal. Yn eu plith mae canol pentrefi Aberdaron
a rhannau o Lanengan a Llangian sydd o fewn cyffiniaur eglwys. Rhestrir
nifer o adeiladau ym Mhwllheli megis y Wyrcws, Penlan Fawr, Whitehall,
doraur harbwr, Hen Neuadd y Dref, y gofeb ar y Cob ar addoldai.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae mwy a mwy o dir Llyn, yn arbennig ar yr arfordir, yn dod i berchnogaeth
yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol bron i 3000 o aceri. Mae y dyfodol y tir
wedi ei warchod; caiff ei amaethu a rhoddir rhyddid rhesymol ir cyhoedd
iw grwydro. Yr unig adeilad ou heiddo syn agored ir cyhoedd
yw Plas yn Rhiw.
Safle Ramsar
Maer Gors Geirch a Chors Edern syn ymestyn o Rydyclafdy
i gyfeiriad Edern yn enghraifft ragorol o gorstir calchog a chydnabuwyd eu harbenigrwydd
yn 1998 gan gomisiwn Ramsar. (Ramsar dinas yn Iraq ller arwyddwyd
cytundeb.)

Ardal
Cadwraeth Arbennig Forol
Dynodwyd yr ardal forol, a adnabyddir fel Pen Llyn ar
Sarnau ar sail cyfoeth bywyd gwyllt y môr, arbenigrwydd ei haberoedd
ar riffiau ar Sarnau Padrig, Gyfelog a Wallog. Mae Sarn Badrig yn greigiau
tanddwr syn rhedeg o Frochas ym Meirionydd ac ir de o Ynys Enlli
ar ddwy arall yn is i lawr ym Mae Ceredigion.
|
Llyn
Coastal Heritage
Llyn
Coastal Heritage
Special status was given to 55 miles of Dwyfors shoreline in 1974
to protect the historical, geographical, ecological, and geological richness
of the area. The protected coastal link stretches from Penrhyn Du, Abersoch,
around Ynys Enlli (Bardsey), northwards to Yr Eifl (Rivals) onto Aberdesach.
This status is aimed at creating a balance between the tourism interest and that
of the local communities.

Practical work
is carried out on paths, beaches and picnic areas. Stonewalling
and signage construction is also amongst the work
carried out.
National Nature Reserves
Ynys Enlli (Bardsey) and Gors Geirch

Local Nature Reserves
The land at the Cob, Pwllheli (SH 373347) has been protected as a Local
Nature Reserve by Cyngor Gwynedd Council. This is quite unique for this nature
reserve is located at the centre of Llyns busiest and largest town.
Preservation Areas
Many of Llyns building are protected in an effort to preserve the
natural appearance of rural villages. Aberdaron, Llanengan and Llangian are
just some of those villages protected in this way. Many buildings in Pwllheli
arte
also listed, including the old Workhouse, The Penlan Fawr, Whitehall, the
harbour gates, The Old Town Hall, its many worship buildings and the memorial
on the
Cob.
The National Trust
The National Trust is acquiring more and more land on Llyn nearly
3000 acres to date. The future of this land is now safe and relative freedom
to roam is given to the public. The only public access building in National
Trust ownership on Llyn is Plas yn Rhiw.
Ramsar Site
Gors Geirch and Cors Edern that stretch from Rhydyclafdy towards Edern
are excellent examples of chalk-based boglands, which were recognised for
protection in 1998 by the Ramsar Commission. (Ramsar a
city in Iraq where the agreement was signed.)

Special Marine Preservation
Area
The area known as Pen Llyn and Sarnau is protected due to
the rich diversity of marine wildlife that occupy the reefs at Sarnau Padrig,
Gyfelog and Wallog. Sarn Badrig are underwater rocks that run from Frochas
in Meirionydd to the south of Ynys Enlli. The other two are located further
south in Cardigan Bay.
|