Y
Canol Oesoedd
Yn
ystod y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol, y pedair teyrnas,
Gwynedd, Powys, Deheubarth a Morgannwg, oedd cyfansoddiad
gwleidyddol Cymru. Rhenid pob un o'r rhain yn gantrefi,
ac is-rennid pob cantref wedyn yn gymydau, a phob cwmwd
yn cynnwys nifer o drefydd neu drefeysydd. Sylwer, fodd
bynnag fod cantref a chwmwd yn dermau trawsgyfnewidiol
yng Nghyfreithiau Cymru. O'r ddau, dichon mai'r cantref
oedd y trefniant cynharaf, a dichon mai is-raniad hwylusach
oedd 'cwmwd' a fabwysiadawyd tua adeg y Goncwest Normanaidd,
er nad oes sicrwydd o gwbl o hyn.
Yr
oedd yn Llŷn, yr ardal ffrwythlon wedi ei hamgylchu a'r mor,
dri chwmwd: Dinllaen (gyda'r gaer ym Mhortinllaen) oedd yn
ymestyn o'r Eifl i Garn Fadryn a'i llys brenhinol yn Nefyn;
Cymydmaen, yn ymestyn o Garn Fadryn i Aberdaron, a'i llys
yn Neigwl; ac Afflogion ar draethau Bae Ceredigion o Ynysoedd
St Tudwal i'r afon Erch a Phwllheli yn ganolfan. Yr oedd
hefyd yn y cantref y clas yn Aberdaron a'r Ynys Enlli enwog.
|
|
The
Middle ages
During
the greater part of the Middle Ages, Wales consisted politically
of the four great kingdoms of Gwynedd, Powys, Deheubarth,
and Morgannwg. Each of these was divided into cantrefs
(or hundreds), and each cantref in its turn was subdivided
into commotes or cymydau, a cymwd consisting of a number
of trefs or townships. It should be noted, however, that
cantrefs and cymydau are interchange able terms in the
Welsh Laws. Of the two, the cantref was possibly the older
organisation; the cymwd may have been a convenient subdivision
brought in about the time of the Norman Conquest, though
this is by no means certain.
This
remote, sea-locked but fertile region of Llyn consisted of
three commotes: Dinllaen (with its fort on Porth dinllaen),
which stretched from the Rivals to Garn Fadryn, and had its
royal manor at Nefyn; Cymydmaen, which extended from Carn
Fadryn to Aberdaron, with its court at Neigwl; and Afloegion
(or Cafflogion in its corrupt form), on the shores of Cardigan
Bay from St. Tudwal's Isles to the river Erch, with Pwllheli
as its centre. There were also within the cantref the clas
at Aberdaron and the famous Isle of Bardsey.
|
|
|