Llŷn
Y Tuduriaid
Wrth
dynnu bonnedd Sir Gaernarfon i wasanaeth cyhoeddus, cyrhaeddodd
eu gafel cyn belled hyd yn oed a Llŷn, oedd yn gymharol boblog.Yr
oedd un ran o dair o siryfyddion Sir Gaernarfon yn ystod ugain
mlynedd olaf y ganrif yn hannu o Lyn ac Eifionydd, nad oedd wedi
cyfrannu cymaint ag un yn ystod hanner cyntaf y ganrif. Gwelwyd
yr un tueddiad yn llywodraeth yr Eglwys.
Yn
ystod y cyfnod yma hefyd, mae tystiiolaeth fod y traddodiad barddol
hir yn dal yn fyw. 'Graddiodd' William Llŷn, a enwyd fel yr unig
fardd mewn oes o drai ar farddoniaeth, 'graddiodd yn Eisteddfod
Caerwys. Adnybyddid ef fel 'Bardd Llŷn' gan ei gyfoeswyr bu'n dilyn
ei alwedigaeth yn Ne a Gogledd Cymru, a bu farw yng Nghroesoswallt.
Cai ef a'i debyg groeso mew plasau fel Bowrda a Madrun. Yr oedd
gan Gefnamwlch ei fardd teulu ei hun - Morus Dwyfach - llai enwog
na'i gyfoedion, a llawer llai ysbrydoledig ei awen, yn ei gyfyngu
ei hun i destunau lleol.
Erbyn
diwedd y ganrif mae Nefyn a Phwllheli yn chwarae rhan bwysicach
ym masnach Sir Gaernarfon, yn arbennig fasnach pysgod, gyda'r byd
y tu allan, ac ar yr un pryd y mae llongau lleol yn dechrau cymryd
rhan yn y fasnach yn hytyrach na'i fod i gyd yn cael ei adael i
fasnachwyr o'r tu allan.
O stad Bodfel,
rhyw ddwy filltir i'r gogledd orllewin o Bwllheli, y cymrodd
teulu lleol arall ei gyfenw wrth i gyfenwau ddod yn ffasiynol.
Nid oedd llawer o arbenigrwydd i'r teulu hyd tua chanol y ganrif.
Ond yna aeth John Wyn ap Huw yn filwr yng ngwasanaeth yr Iarll
Warwck a ddaeth yn fuan i amlygrwydd fel Dug Northumberland oedd
i bod pwrpas yn llywodraethu Lloegr ym mlynyddoed olaf Edward
V1. Ef oedd llumanwr Warwick pan orchfygwyd gwrthryfel Ket ym
Mousehold Hill, lle, fel y dywed Syr John Wyn, 'lle y lladdwyd
ei geffyl oddi tano ac y clwyfwyd yntau, eto fe ddaliod i chwifio
baner fawr Lloegr'. Cafodd ei wobrwyo yn helaeth mewn tiroedd
a swyddi gan gynnwys rhai o diroedd mynachlog Enlli ar yr Ynys
ei hun ac ar y tir mawr.
Cyhuddwyd
ef o ddefnyddio'r tir a'r swyddi i hyrwyddo mor-ladron a defnyddio'r
ynys yn storfa i'r ysbail a'i safle gymdeithasol i'w ddiogelu rhag
cael ei erlyn.
Gwr
arall o Lŷn a fu'n gwasanaethu'r Iarll Warwick oedd Griffith ap
John o Gastellmarch, blaguryn
o hen deulu o'r ochr ddeheuol i'r Traeth. Yr oedd ei daid wedi
ei benodi i un o'r man swyddi yn y drefn sirol yn fuan ar ol y
Ddedf Uno, a bu ei dad yn sirydd ym 1548. Daeth gwasanaeth Griffith
gyda Iarll Warwick, fel yn achos John Wyn ap Huw, a rhagor o flaenoriaeth:
ym 1549 derbyniodd y swydd ddylanwadol o Gwnsatabl Castell Conwy.
Roedd hyn i gyd yn sylfaen i swyddi da a phroffidiol i'w wyrion,
fabwysiadodd y cyfenw Jones, yn y ganrif ddilynol.

Yn
agos i Aberdaron hefyd yr oedd ty hyfryd Bodwrda a
ddaeth yn gyfenw i deulu tebyg iawn i deulu Bodfel. Mater i'r dychymyg
yw penderfynu beth oedd ffynhonell cyfoeth y teulu distadl ac anadnabyddus
yma i beri i un fod yn siryf ym 1584, a thua deugain mlynedd yn
ddiweddarach iddynt ail adeiladu Bodwrda mewn briciau (defnydd
adeiladu prin a drud mewn lle mor anghysbell ar y pryd). Ni ellir
ond awgrymu eu bod hwythau, fel eu cymheiriaid, Teulu Bodfel, yn
byw yn agos i'r mor.
Achau
Bodwrdda
Daeth
hen linach Griffith, o Gefnamwlch,
i amlygrwydd hefyd yn ystod y ganrif nesaf, ond yr oedynt hwythau
eisoes wedi magu siryf ym 1589. Saif Cefnamwlch hefyd rhyw ddwy
filltir o ffordd oddi wrth draeth neilltuedig. Bu un o feibion
ienga'r teulu, Capten Hugh Griffith, oedd wedi ei brentisio yn
fasnachwr yn Llundain, yn cadw busnes proffidiol fel herwlongwr
yn erbyn llongau Sbaen am flynyddoedd, ac yna ymestyn i weithrediadau
llai cyfreithlon lle'r oedd ei dad yn cynorthwyo yn ogystal a'i
frawd yng nghyfraith, William Jones Castellmarch, cofrestrydd Beaumaris
a barnwr yn ddiweddarach. Bu ymholiadau yn Llys y Llynges ond nid
ymddengys i enillion amheus y naill na'r llall o'r ddau deulu gael
eu datgelu.
Y'mhlith
y teuluoedd mwyaf urddasol yn Lleyn, ganrifoedd yn ol, ar gyfrif
gwaedoliaeth, bonedd, a chyfoeth, yr oedd y rhai a ganlyn :-Teuluoedd
Gwynus, Pistyll, Madryn, Saethon, Nanhoron, Gastellmarch, Methlem,
Carreg, Bodwrdda, Llangwnadl, Nyffryn, Cefnamwlch, Meillteyrn,
Trygarn, Tymawr, Penyberth, Gelliwig, ayyb.
Achau
Saethon
Teuluoedd y , Saethon, Llanfihangel, LLyn.
Robert Wyn ab Ieuan ab Robert ab Hywel ab Gruffydd ab Dafydd Vychan
o Gefnamwlch, ab Ieuan ab Meredydd ab Ieuan ab Dafydd Goch ab Trahaiarn
Goch o Leyn, ab Madog ab Rhys Gloff ab Rhyn Fychan ab Gruffydd
ab Rhys ab Tewdwr Mawr.
Peis-arfau Rhys ab Tewdwr oedd Llew melyn yn y maes coch. Mam Robert
ab Ifan oedd Elizabeth merch Sion Bodwrdda ab Sion ab Meredydd
Fychan. Mam Robert ab Hywel ab Gruffydd oedd Margaret ferch Rhys
ab Hywel ab Madog ab Ieuan ab Einion ab Gwgan ab Merwydd ab Collwyn,
pennaeth un o Bymtheg Llwyth Gwynedd, fel y crybwyllwyd eisoes.
Mam Gruffydd ab Dafydd Fychan oedd Mallt (Matilda) ferch Hywel
ab Llewelyn ab Gruffydd ab Llewelyn ab Dafydd ab Cynyr (Cynan)
ab Tudur ab Iorwerth, o'r Rhiw yn Lleyn: Robert a briododd Catrin
ferch Rhys Wyn o Fwsoglan. Sion a briododd Margaret ferch Robert
Gruffydd o'r Plas Hen.
(Br., Cyf. III, t. d. 252.)
Achau
Carreg
Achau Carreg yn Lleyn:
Rhys ab Tewdwr mawr, Tywysog y Deheubarth.
Gruffydd ab Rhys ab Tewdwr.
Yr Arglwydd Rhys a fu farw 0.C. 1197.
Rhys Gloff, a briododd Gwerfyl merch Maelgwyn ab Cadwallon.
Madog ab Rhys, a briododd Tanglwst âch Gronwy ab Einion
ab lestyn ab Gwrgant, Arglwydd Morganwg.
Trahaiarn Gocb, Arglwydd Cymmydmaen yn Lleyn, a briododd Gwerfyl âch
Madog ab Maredydd ab Maelgwyn ab Cadwallon ab Elystan Glodrydd.
Dafydd Goch.
Sion Carreg Bach.
Ifan, a briododd Gwenllian âch Ifan âch Hywel Coetmor.
Gruffydd.
Rhobert a fu farw yn 1579, a briododd Catrin âch Rhisiart
ab Sion ab Madog o Fodwrdda. Eu plant oedd Ifan, Gruffydd, Sion,
William, Rhobert, Ellis.
I Gruffydd yr oedd merch o'r enw Lowri; i William, Annes; ac
i Ellis, Catrin.
Dyma fel y rhoddir achau Carreg gan Myrddin Fardd:-
Ifan ab Gruffydd ab Ifan ab Gruffydd Carreg, ab Ifan, ab Sion
Carreg Bach, ab Dafydd Goch, &c., fel âch Cefnamwlch.
Ifan ab Gruffydd Carreg a briododd Ellin merch Sion Wyn ab Hugh
o Fodwrdda. Ifan ab Sion Carreg a briododd Elsbeth merch Rhobert
ab Llewelyn o Benllech. Robert Carreg a briododd Catrin merch
Rhisiart ab Sion o Fodwrdda. Ifan ab Robert a briododd Gwenhwyfar
merch Madog ab Iolyn.
(Brython, Cyf. III., t. d. 432; a t. d. 453.)
Achau Methlem:
Gruffydd ab Morys ab Gruffydd (bu farw O.C. 1687) Ieuan ab
Morys ab Gruffydd ab Ifan ab Sion Carreg ab Dafydd ab Ifan
ab Dafydd Goch (Abad Enlli) ab Trahaiarn Goch, &c., fel âch
Cefnamwlch. Gruffydd ab Ieuan a briododd Margred merch Rolant
ab Robert o Fellteyrn. Ieuan ab Morys a briododd Blanche,
merch Arthur Williams, Meillionydd. Gruffydd ab Ieuan a briododd
Elsbeth merch Gruffydd ab Dafydd Fychan. Ieuan ab Sion a briododd
Gwen merch Morys Gruffydd o'r Plas-du. Morys ab Gruffydd a
briododd Mary Wen o Fodeon.
(Gwel Brython, Cyf. III., t. d. 453.)
Achau LLangwnadl:
Sion Llwyd ab Francis Llwyd (bu farw O.C. 1694) ab Sion Llwyd,
ab Sion Llwyd ab Francis Llwyd ab Owain, ab Dafydd ab Sion ab Gruffydd
ab Fychain, &c., fel âch Cefnamwlch. Francis Llwyd a
briododd Catrin merch ac Aeres Sion Wyn o Benllech. Sion Llwyd
a briododd Elsbeth merch William Wyn o'r Glyn.
(Brython, Cyf. Ill., t. d. 453.)
Achau Trygarn:
Rhisiart Trygarn ab Robert ab Rhisiart ab Robert ab Rhisiart ab
Thomas ab Robert ab Rhisiart b Cynfrig, ab Bleddyn, &c., fel âch
Cefn Llanfair.
(Br., Cyf. III., t. d. 453.)
Achau Teulu Nanhoron:
Olrheinia y teulu hwn ei âchau i Iwythau brenhinol Cymru:-o
ochr y tad drwy Rhys ab Gruffydd ab Llywelyn Fychan ab Cynfrig,
disgynydd o HyweI Dda, wyr Rbodri Mawr, brenhin holl Gymru.
Rhys ab Gruffydd a briododd Agnes, merch ac aeres Gruffydd ab Madog
Fychan, Ysw., o Nanhoron a Llwyndyrus, y pumed disgynydd o Syr
Gruffydd Llwyd o Gastell Dinorwig, sir Gaerynarfon, a Thregarnedd,
sir Fôn, gorwyr Ednyfed Fychan ab Cynfrig, o Brynffanigl,
sir Ddinbych. Ednyfed Fychan oedd ArgIwydd Cruccaith, ac is-gadfridog
i Llewelyn ab lorwerth, Tywysog Cymru, yn mrwydr Tegonwy, ac wedi
hyny yn brif, gynghorwr iddo. Efe oedd yn disgyn o Marchudd ab
Cynan, Arglwydd Brynffanigl ac Uwch Dulas, sir Ddinbych, drwy yr
hwn y maent yn perthyn i Fostyniaid Mostyn, Williams BuIckley,
o Baron Hill, Wynuiaid o Wynnstay, Wynniaid Coed Coch, Wynniaid
Peniarth, Williams Meillionydd, Fychaniaid Nannau, ac amryw eraill.
0 ochr y fam drwy Llwydiaid Llangwnadl, Hirdrefaig, a Bronheulog.
John ab leuan o Hirdrefaig, ab John ab Meredydd ab Elywel, Arglwydd
Ffriwlwyd yn Eifionvdd (o deulu Gwydir) a briododd Efa, merch ac
etifeddes Hywel ab Einion, sef - Hywel y Fwyall, y chweched o Collwyn
ab Tango, disgynydd o Thomas ab Rhodri, Arglwydd Môn, mab
Owain Gwynedd, gan Cristiana, merch Owain ab Edwyn, Arglwydd Tegeingl.
John ab Ieuan oedd tad Syr Rhisiart Gwynne, marchog, yr hwn a briododd
Gwenhwyfar, merch John ab Cadwaladr, Ysw., o'r Foelas;. ei ferch
ac etifeddes a briododd Francis Llwyd, Ysw., o Langwnadl, a Hirdrefaig,
mab Owain Llwyd ab Dafydd Llwyd ab Gruffydd ab John o Gefnamwlch
(gan Catrin merch Syr Rhisiart Bulckley o Baron Hill), disgynydd
o Ddafydd Goch ab Trahaiarn Goch o Leyn, ab Madog ab Rhys Gloff,
ac o Rbys ab Tewdwr, drwy y rhai y maent yn perthyn i amryw deuluoedd
urddasol yn Lleyn ac Eifionydd. Rhisiart Edward, Ysw., o Nanhoron,
y cyntaf a gymerodd yr enw teuluol Edwards, y pumed oddiwrth Rhys
ab Gruffydd, a briododd Ann, merch ac etifeddes Fredric Wyn, Ysw.,
o Bodfean, drwy yr hyn y cysylltwyd Bodwyddog a Nanhoron, Llangwnadl,
Hirdrefaig a Bronheulog, yr oll yn perthyn yn ddiweddarach i R.
Lloyd.Edwards, Ysw., Nanhoron, (a elwid gynt yn Bryn y Neuoedd,)
wedyn i'w fab, F. W. Ll. Edwards, Ysw. Y mae cywyddau ar gael o
waith Owain Gruffydd, Llanystumdwy, leuan Lleyn, ac eraill, yn
dwyn cysylltiad â'r Ilin-âchau hyn. Ceir Cywydd-Marwnad
i R. Edwards, Ysw., Nanhoron, yn y Brython, Cyf. IV., t. d. 340.
(Brython,
Cyf. IV., t. d. 248.)
Teulu Madryn:
Y mae teulu Madryn yn un o'r rhai mwyaf hynod ac enwog yn Lleyn
ar amryw gyfrifon. Meredydd ab Einion oedd tad Hywel y Fwyall,
yr hwn a briododd Gwenllian, merch Gruffydd ab Ednyfed Fychan,
o'r hon y cafodd ddau fab-Ieuan a Gruffydd. I Ieuan yr oedd tair
merch-Myfanwy, Gwenllian, ac Angharad. Angharad oedd gwraig Hywel
ab Grono ab Ieuan ab Grono o Hafod y Wern. Gruffydd a briododd
Angharad, ferch Tegwared y Beiswen, ordderch-fab i Llewelyn Fawr,
Tywysog Gogledd Cymru, o'r hon y cafodd, 1af, Einion; 2il, Hywel;
3ydd, Rhys,-hynafiaid y Madryniaid o Fadryn, Llannerch, a Charnguwch.
Yr oedd Elphin yn un o hynafiaid y teulu hwn, ac yn disgyn o deulu
urddasol fel y canlyn :- Elphin ab Gwyddno ab Cawrdaf ab Gorboniawn
ab Dyfnwal Hen ab Edyn ab Macsen Wledig ab Llewelyn, ewythr Elen
Lluyddawg. Elin, merch Hugh Gwynne, o Benarth, yn Eifionydd oedd
fam i Love-Parry, Ysw., tad Love-Parry, Ysw., o Benarth, tad Margaret,
mam y diweddar Syr Love-Parry, o Fadryn, a nain yr aelod seneddol
(1883) dros Fwrdeisdrefi Arfon, T. D. Love-Jones Parry, Ysw., A.C.H.,
o Fadryn, neu "Elphin ab Gwyddno." (Brython,
Cyf. 111. t. d. 288, 117, 67.)
Teulu Bodwrdda:
Elis Elis, Ysw, o'r Ystumllyn, a briododd Mably, merch William
Lewys Anwyl, o'r Parc, Ysw., Llanfrothen, o'r hon y cafodd Elizabeth,
yr hon a briododd Hugh Jones, Ysw., Bodsilin; ac Owain Elis, Ysw.,
o'r Ystumllyn, a briododd Elizabeth ferch John Bodwrdda, Ysw.,
a chwaer i Huw Bodwrdda, o'r hon y by iddo fab, Owain Elis (yr
hwn a syrthiodd oddiar ei geffyl, rhwng y Faerdref a Nanhoron,
ac a fu farw), a merch ac etifeddes Margred Elis, yr hon a briododd
John Wyn, Ysw., o Benyberth, yr hon a fu farw Medi 22ain, 1712.-
Bu John Wyn, Bodwrdda, yn Sirydd yn 1584; Huw Bodwrdda yn 1606;
a John Bodwrdda yn 1606.
(Brython, Cyf. Ill., t. d. 293.)
Ceir crybwyllion lluosog a diddorol am Achau teuluoedd :-
Penyberth, Castellmarch, Tymawr, Pistyll, Gwynus, Llanerch, &c.,
yn y Brython, Cyf. III. tudal. 287-295. Prawf hyn y gall Lleyn
ymffrostio cyimaint âg odid un rhan o'r Dywysogaeth mewn
meddu boneddigion o urddas a gwaedoliaeth, yn ogystal âg
enwogion o bob natu'r. (Brython, Cyf. 111., 234.)
|
Tudor
Llŷn
In
drawing the Caernarvonshire gentry into the public service the
Tudors stretched their hand even to distant (but relatively populous)
Llŷn. A third of Caernarvonshire's sheriffs during the last twenty
years of the century were drawn from Llŷn and Eifionydd, which
had supplied not a single one during the first fifty years; the
same phenomenon occured in the government of the Church.
During
this period there is also evidence that the long bardic tradition
was still very much alive. William Llŷn, who has been called the
only bard, in an age of decline, worthy of comparison with the
great figures of the preceding generation from whom he learned
his craft, 'graduated' at the Caerwys eisteddfod. Known to contemporaries
as ' the bard of Llŷn ', he plied his profession in both North
and South Wales, and died at Oswestry. He and his like were welcomed
at such houses as Bodwrda and Madrun; Cefnamwlch had its own less
distinguished household bard in Morus Dwyfech, whose muse did not
range far beyond local themes.
Towards
the end of the century Nefyn and Pwllheli are taking an increasing
part in Caernarvonshire's trade, especiallv in fish, with the outside
world, and at the same time local shipping is beginning to participate,
instead of leaving it all to merchants from outside.
Some
two miles north-west of Pwllheli lay the estate of Bodfel,
from which another local family took its name once surnames came
into fashion. Until about the middle of the century its record
remained undistinguished; then John Wyn ap Hugh took service
under the earl of Warwick who was soon to achieve notoriety as
the duke of North umberland who virtually ruled England in the
later years of Edward VI. He was Warwick's standard bearer when
Ket's rebellion was crushed at Mousehold Hill, where (as Sir
John Wynn tell us) ' his hors was slaine under him and himself
hurt and yet he upheld the great stander of England'. For this
he was richly rewarded with both offices and lands, including
some of the former lands of the abbey of Bardsey on the island
itself and on the mainland.
He
was accused of using both offlce and land to promote piracy, with
the island as a depot for his loot and his public position to shield
him from prosecution.
Another
son of Llŷn who entered the service of the same earl of Warwick
was Grifflth ap John of Castellmarch (near
Aberdaron)Ñscion of a very ancient family originating
south of the Traeth. His grandfather had been appointed to one
of the minor offices in the county hierarchy soon after the Act
of Union, and his father became sheriff in 1548. Griffith's service
with the earl of Warwick, like John Wyn ap Hugh's, brought with
it further advancement: in 1549 he was given the influential
post of constable of Conway. All this laid a firm foundation
for distinguished and lucrative careers for his sons and grandsons
(who took the name of Jones) in the next century.
Also
near Aberdaron was the fair house of Bodwrda,
which gave its name to a family closely akin to the
Bodvels. What was the source of the wealth which enabled
this ancient but hitherto inconspicuous family to qualify
for the office of sheriff in 1584, and some forty years
later to rebuild Bodwrda in brick (a rare and long
unique building material for so remote a region) is
a matter of guesswork; one can only observe that, like
their kinsmen of Bodfel, they lived conveniently near
the sea.
Bodwrdda
liniage
The
equally ancient stock of Griffith of Cefnamwlch,
some six miles to the north, came into its own in the
next century, but it too had supplied a sheriff by
1589. Cefnamwlch lies only a couple of miles from a
sequestered shore; a younger son of the house, Gaptain
Hugh Griffith, apprenticed to a London merchant, had
for years carried on a profitable privateering business
against Spain, and then extended it to less legitimate
operations, in which his father participated, as well
as his brother-in-law William Jones of Castellmarch,
recorder of Beaumaris and a future judge. There were
investigations at the court of admiralty, but it does
not appear that the dubious gains of the two families
were ever disgorged.
|