Ar
lethrau Mynydd Ystum, ryw 3km i'r gogledd o Aberdaron,
mae caer fynyddig Castell
Odo,
sy'n nodedig am mai hi efallai, yw'r sefydliad cynharaf
yng Nghymru o gyfnod yr Oes Haearn.
'Y
Gegin Fawr' hen adeilad canol oesol wedi ei adnewyddu
yn ei gymeriad, a'r lle y byddai'r pererinion yn
cael eu prydau olaf cyn croesi i Enlli.
Eglwys
St Hywyn
Dilyn
y ffordd o'r pentref 2km i'r de-orllewin i Uwchmymydd,
a'r Mynydd Mawr, Ynys Enlli dros y Swnt, a ffordd
i gar mynd i gopa'r mynydd lle bu safle wylio i'r
llynges yn ystod y rhyfel ond sydd erbyn hyn yn safle
gwylwyr y glannau. Yr holl dir yn eiddo'r Ymdiriedolaeth
Genedlaethol.
Llwybrau
o droed y mynydd i lawr dros yr allt at Ffynnon Fair
lle mae gweddillion eglwys o'r chweched ganrif a
ffynnon ar lan y mor yn is na llinell y gorllan a'r
mor yn golchi drosti ar ben llanw ond gyda'r trai
mae dwr y ffynnon yn berffaith groyw. Yma yr oedd
y cyfle olaf i'r Saint gael gorffwys cyn croesi'r
Swnt i Enlli.
Saif Bodwrda (SH
188272) mewn llecyn cysgodol yng nghanol y coed,
ryw 2km dwyrain o Aberdaron. Yr oedd y plasty yn
enwog fel cartref teulu'r Gwyniaid. Bu rhai o'r teulu
yn bwysig yng ngwleidyddiaeth cyfnod Cromwell ac
yr oedd Griffith Gwyn ymhlith y fintai a aeth i Baris
yn amser yr Adferiad i hebrwng Siarl I i Lundain.
Bu aelwyd Bodwrda yn noddi beirdd am genedlaethau.
Mab
i saer a drigai yng Nghae'r eos, bwthyn sydd wedi
hen ddiflannu, ond a safai ar dir Sgubor-bach yn
Aberdaron, oedd y cymeriad od hwnnw, Dic
Aberdaron (Richard Robert Jones, 1780- 1843).
Athrylith rhyfedd ydoedd a grwydrai o amgylch y wlad
gyda'i gath a'i Iyfrau. Dywedir iddo ddysgu ei hun
i siarad 14 o ieithoedd a hynny heb erioed gael fawr
addysg ffurfiol. Dywedir y gallai hefyd godi cythreuliaid. |
On
the slopes of Mynydd Ystym, about 3km to the north
of Aberdaron, are the remains of Castell
Odo. A site that has been partly excavated twice,
that sheds light on the early inhabitants of Llyn.
The
' Gegin Fawr' dates from the middle ages and is
said to be the last eating place before pilgrims
crossed to Enlli.
Eglwys
St Hywyn
Taking
the road westward out of Aberdaron, about 2km southwest
of Aberdaron is Uwchmynydd and the mountain of Mynydd
Mawr. Enlli can be seen across the straits from the
vantage point at the top. This used to be a lookout
post during the war and is now used by the coastguard.
The land around is now owned by the National Trust.
One
of the footpaths from the foot of the mountain goes
westward towards the sea down the cliff side to Ffynnon
Fair. Here are the remains of a C6 church and a freshwater
spring that is covered twice daily by the tide only
to emerge with crystal clear water when the sea level
drops. This was the last place for pilgrims to rest
on their way to and in sight of Enlli.
The
mansion at Bodwrda (SH
188272) stands in a sheltered valley about 2km east
of Aberdaron. This house was famous for being the
home of the Wynne's. Members of this family were
prominent politically during the time of cromwell
and Griffith Gwyn was amongst those who went to Paris
to try and make Charles the first return to London.
The family house at Bodwrda sponsored Bards for generations.
The
son of a carpenter who lived in Cae'r eos, a cottage
that has long since fallen, but that stood on the
land of Sgubor Bach in Aberdaron, was the eccentric
character known as Dic
Aberdaron (Richard Robert Jones, 1780-18430.
A strange character he would roam around the country
with his cat and his books. He is said to have been
able to speak in 14 languages all with little formal
education. He was also said to have been able to
summon spirits. |