abersoch logoabersoch header

abersoch


Abersoch



Adranau - Sections





Abersoch business

Abersoch services

abersoch visiting

abersoch history

abersoch

abersoch news

abersoch gallery

abersoch maps

abersoch culture

Tudalen Cymuned Abersoch Community Page

Abersoch, pentref glan môr, saith milltir o Bwllheli, wedi datblygu yn un o ganolfannau hwylio pwysicaf Prydain yn ystod y trigain mlynedd diwethaf. Arbennig o boblogaidd yn ystod misoedd yr haf ac o ganlyniad yn ddrud o ran gwerth eiddo, lletyau, gwestai cyfleusterau ayb.

Dewis o westai moethus, meysydd carafanau a gwersylla, siopau syrfio arbenigol a holl anghenion cychod a phlesera môr.

Mae pentref Abersoch ar lan môr Ceredigion ar yr A499, a'r traethau -Porth Fawr, Porth Bach, Porth Caeriad yn draethau tywod diogel yn wynebu'r de. Mae aber yr Afon Soch yn harbwr naturiol gyda digon o ddwr i nofio cychod hwylio bychan ar ben llanw a digon o safleoedd diogel ar gyfer cychod mwy yng ngheg y bae.

Mae Pen Bennar yn torri rhwng ceg yr afon a'r harbwr a'r traeth yn y Borth Fawr, tua milltir o hyd.

Am y pentref ei hun, mae'r gymdeithas Gymreig gysefin yn adfywio yn ystod y gaeaf a nifer o weithgareddau diwylliannol - cyngherddau, ddramau, darlithoedd WEA ayb. yn cael eu cynnal.Bu'r Neuadd yn bwysig yn hanes datblygiad diwylliannol y pentref. Cyflwynwyd y Neuadd i'r pentref yn nechrau'r ganrif ddiwethaf trwy garedigrwydd Syr William a'r Fonesig Winterbottom er cof am eu mab Harold. Fe'i gweinyddir gan bwyllgor lleol gwirfoddol a chyfleusterau chwaraeon dan do -biliards, badminton, tennis bwrdd ayb ar gael.

Mae'r Ysgol Cynradd mewn adeilad coed yn nesaf i'r Neuadd. Ysgol Sarn Bach ar y ffordd i Fwlchtocyn a Chilan, tua 3km o'r pentref yw'r ysgol gynradd o hyd - prawf arall mai diweddar yw'r twf a'r datblygiad yn Abersoch.

Pentref Llanengan a'r eglwys hynafol yw hen ganolfan y plwyf.

 

Abersoch is a coastal resort about seven miles West of Pwllheli on the A499. It has grown to become one of the most important water sports centers for both sailing and surfing. It is extremely busy during the tourist season .

There is a choice of luxurious hotels campsites in and around Abersoch. Caravan sites can cater for all from the well heeled yachtsmen to the surfing Backpacker. There are specialist shops from Chandlers to surfing equipment, clothing etc.

The village of Abersoch sits on Cardigan bay on the A499, with the beaches of Porth Fawr, Porth Bach and Porth Ceiriad being sandy and South facing safe beaches. The river mouth is a safe haven with good mooring and tidal launching of smaller craft with safe anchorage for larger yachts in the bay.

Whilst Abersoch is extremely busy during the holiday season, it is also busy during the winter months with a great deal of educational and cultural events- concerts, plays and WEA lectures being held. Abersoch village hall has been important in the cultural development of the village. It was presented to the community by the kindness of Sir William and Lady Winterbottom in memory of their son Harold. It is managed by a voluntary local committee and have facilities for indoor sports - billiards, Badminton, table tennis etc.

Abersoch Primary school is in a timber building alongside the hall. There is also Sarn Bach school, about 3km along the road to Bwlchtocyn and Cilan, the local primary school. This again shows Abersoch's only relatively recent development as a tourist mecca.

Abersoch was once said to have been the most beautiful of all Llŷn's small fishing hamlets. The village of Llanengan and its ancient church was the center of the parish.


 

llyn

©penLlŷn.com 2000-9