abererch

abererch


Llanbedrog



Adranau - Sections




BUSINESS

SERVICES

VISITING

HISTORY

Llanbedrog

NEWS

VIEWS

MAPS

CHAT

Tudalen Cymuned Llanbedrog Community Page

Llanbedrog yw un o ganolfannau pwysicaf Llŷn, y wlad baradwysaidd honno y tu draw i fynyddoedd Eryri. Mae'n enwog am ei thraeth cysgodol yng nghesail y pentir uchel creigiog â'i wisg o rug a phinwydd ar ei ymyl.

Yn ogystal â chael ei gydnabod yn un o draethau mwyaf cysgodol gogledd Cymru, mae'n ddigon posibl fod y ffordd tuag ato wedi ei ddarllunio'n amlach nag unrhyw fan arall yn Llŷn oherwydd ei harddwch neilltuol. Prynwyd y traeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 2000.

Bydd y traeth yn denu ymwelwyr yn eu miloedd bob blwyddyn, ond mae gan y plwyf ei hun lawer o gyfleusterau eraill i'w cynnig hefyd. Ymhlith y rhain y mae pysgota ar y môr ac ar yr afon, hwylio a merlota. Fe geir digonedd o ddewis i'r rhai hynny sy'n mwynhau cerdded, ond nid oes dwywaith mae'r olygfa fwyaf trawiadol yw honno a geir o ben Mynydd Tir y Cwmwd gerllaw'r pentref.

Ceir un o'r golygfeydd gorau o Fae Ceredigion o Tremfan Hall a fu unwaith yn gartref i John Gwenogfryn Evans, yr ysgolhaig enwog.

Dylid sôn hefyd am hinsawdd yr ardal. Mae penrhyn Llŷn yn debyg i ynys, a'r môr yn golchi ei lannau ar dair ochr, ac mae hefyd ar ymyl llif cynnes y Gwlff. Mae lleoliad cysgodol Llanbedrog yn rhoi iddi'r gorau o ddau fyd. Mae cefn gwlad Llŷn yn ardal sy'n llawn hanes a chysylltiadau â hen chwedlau, a'r Gymraeg yma'n brif iaith. Mae i Llŷn ei chymeriad arbennig ei hun a phrin y ceir unman yn ynysoedd Prydain â golygfeydd mor brydferth.

LLanbedrog is one of the key centers of the unique Lleyn Peninsula, a demi paradise tucked away beyond the mighty mountains of Snowdonia. It is especially renowned for its sheltered sandy beach nestling under a steep rocky headland covered with picturesque heather and fringed by pine trees.

Llanbedrog beach is not only recognized as the most sheltered in North Wales but the breathtaking beauty of the approach road has probably been painted and photographed more often than any area in this peninsula of unforgettable scenery. The beach was bought by the National Trust in 2000.

Whilst the beach is a mecca to thousands of holidaymakers annually the parish of Llabedrog has many other facilities to offer. These include sea and river fishing sailing and boating and pony trekking. For those who enjoy walking there is an abundant choice but unquestionably the most stunning spectacle of all is the panoramic view from the top of the local mountain, Mynydd Tir y Cwmwd.

Equally impressive is the view of Cardigan Bay from Tremfan Hall, which was home at one time to John Gwenogfryn Evans, one of the foremost scholars of early Welsh literature.

The climate is also worthy of special mention. This is mainly because the peninsula resembles an island, engulfed on three sides by the sea, and it is also situated on the edge of the Gulf Stream. And the exceptionally sheltered position of Llanbedrog gives it the best of both worlds. The hinterland of Lleyn is a district rich in historical associations and legends, with scenery that is unparalleled in the whole of the British Isles, scenery that will live vividly in the memory of the thousands that visit it annually, Indeed Lleyn, where the Welsh language is predominant, has a ' foreign' atmosphere which may be enjoyed without the expense and inconvenience of going abroad.


 

Gyda Gymorth/ With the support of

Cyngor gymuned Llanbedrog Community Council

llyn

©penLlŷn.com 2000-9