Un
o'r pentrefi uchaf yn Llŷn a'r golygfeydd
o Fae Ceredigion a'r arfordir o Griccieth
gyda'r glannau i lawr mor bell ag Aberystwyth
yn destun edmygedd ymwelwyr ar hyd y
blynyddoedd.
Y
pentref ei hun ar wasgar o gapel
Nebo yr Annibynwyr i Eglwys
St Aelrhiw filltir i'r gorllewin.
Yr eglwys heb wasanaethau rheolaidd erbyn
hyn a'r plwyf wedi ei uno a phlwyf LLanfaelrhys
i'r de rhwng y Rhiw ag Aberdaron.
Mae
llawer o olion
hen fywyd ar ochr y Rhiw o gwmpas y Castell,
a thai a mân dyddynnod eraill. Cafwyd
hyd i olion mynwent gynnar ar dir Coch-y-moel,
ac y mae enwau llawer o'r ffermydd a'r
tai yn awgrymu sefydliad cynnar.
Ar
ochor dwreiniol Mynydd Rhiw mae yna olion
chwarel o Oes y Cerrig lle gwneid bwyeill
cerrig. Darganfuwyd rhai o'r cerrig hyn
mor bell a swydd Caint yn Ne Lloegr.
ol cloddio pump o dyllau i godi'r cerrig,
a gweddillion y gwastraff oedd ar ol
yn dal yn gylchoedd o gwmpas y cloddfeydd
Ar
waelod yr Allt Fawr sy'n mynd i lawr
o Borth Neigwl, mae Plas-yn-rhiw,
sydd wedi ei gyflwyno i ' r Ymddirledaeth
Genedlaethol gan ei berchenogion, y Misses
Keating. Hen dy o'r ail ganrif ar bymtheg
ydyw, wedi bod yn gartref teulu o Lewisiaid
am gyfnod, ac erbyn hyn wedi ei atgyweirio
a'i adfer i'r hyn ydoedd pan oedd yn wahanol
ei fri ddau gan a haner mlynedd yn ôl.
Mae'n llecyn dymunol uwchben Porth Neigwl,
a charpedi o eirlysiau o dan y coed gyda'r
llwybrau yn nechrau'r Gwanwyn.
Yr
ysgol wedi cau ers pum degau'r ganrif ddwaetha
a'r ymdrechion i sefydlu canolfan gwaith
ynddi wedi methu. Neuadd
bentref lwyddiannus iawn yn ganolfan
cymdeithasol a diwylliannol i'r pentref
a'r ardal - cyngherddau, dramau, darlithoedd
a.y.b.
Gwaith manganis yn
ffynnu yn ystod dau ryfel y ganrif ond
yn rhy ddrud i'w weithio adeg heddwch.
Cludiwyd y cerrig manganis mewn llongau
o'r lanfa oedd wedi ei hadeiladu ym Mhorth
Ysgo ag inclen o'r gwaith yn
eu cario i'r llongau. Trafnidiaeth ffyrdd
a loriau oedd yn symud y cynnyrch yn ystod
yr ail Ryfel byd. Roed y gwaith wedi bod
yn boblogaidd yn niwedd y Cl9 a dechrau'r
C20, ac y mae olion 'y barics' yn aros
ar ochor ddwyreiniol y pentref.
Yr
oedd tafarn 'Pen Poncyn' yn torri syched
y gweithwyr hyd ddechrau'r C20. Gorsaf
Radar y Weinyddiaeth Amddiffyn
ar ochor dde-orllewin y mynydd, a'r llethrau
islaw yn dod yn boblogaidd fel mannau ymarfer
gleidio llaw.
Y
ffordd o'r Rhiw i Aberdaron trwy Benycaerau
heibio i un o ffermydd mwyaf Llŷn - Meillionydd
ar y dde i'r gogledd. Yn y siop, sy'n fuddyn
erbyn hyn, ym mhentref Penycaerau yr oedd
Owen Griffith, yr olaf o fedddygon y ddafad
wyllt yn byw.
Y
ty fferm hynafol o'r Cl5 ar y dde i'r ffordd
ar ol gadael Penycaerau yw Bodwrda, un
o gartrefi enwog Llŷn yn y Cl6 a'r Cl7
- a chartre'r bardd Gruffydd Bodwrda 1640.
Mae'r ffordd yn syth ar y gwastadedd o
droed y Rhiw i lawr y rhiw serth i bentref,
Aberdaron. |
Rhiw
is one of the highest villages in Llŷn.
It boasts one of the most magnificent panoramas
in Wales. On a clear day from Rhiw the
coast of Cardigan bay and its backdrop
of mountains can be seen all the way down
past Aberystwyth.
The
village of Rhiw itself is strewn across
this rocky mountain from the nonconformist
chapel of Nebo to
the Church
at St Aelrhiw about 1.5km to the
east. The church is without a regular
service by now and the parish has merged
with the parish to the southwest, - Llanfaelrhys.
There
is much evidence in Rhiw of early settlement
in the hill
fort, The Cairns, dolmens and
early farming homesteads and field patterns.
The names of many farms and smallholdings
are also ancient.
On
the north eastern side of Mynydd Rhiw there
is the site of the stone age axe head 'factory'.
Some of the axe heads from this rock have
been found as far afield as the southern
counties of England. Here there are at
least five partially back filled pits surrounded
by 'waste' spoil that can clearly be seen
around them.
At
the bottom of the road that runs east towards
Porth Neigwl is Plas
-yn-Rhiw, now owned by the National
Trust. It was given to them by the Keatings.
This imposing seventeenth century house
was for a time the home of the Lewis's,
and has been revived to it's splendour
of 250 years ago. There are charming walks
throgh bluebell carpeted grounds during
the spring.
The
school in Rhiw has been closed since the
1950's and the attempt to set up a works
centre there failed.There is a thriving community
hall and is a centre of social and
cultural activities for the village- concerts,
plays, lectures etc.
Manganese was
mined here and the works flourished during
both world wars. The economics of this
activity makes it an unprofitable one during
peacetime. The ore was shipped out of Porth
Ysgo from the jetty after being transported
down inclines from the mines above. During
WW2 the ore was transported by road.The
works were in use since the mid C19 and
the remains of the barracks can still be
seen.
There
used to be a tavern at Pen Poncyn to slake
the thirst of the miners untill the early
C20. The MOD radar
tracking station is high up on the
south western end of the mountain, with
the slopes below becoming a popular location
for gliding.
The
road runs down and westward towards Aberdaron
through Penycaerau and past one of the
areas largest farms, Meillionydd. In the
shop at Penycaeurau which is by now in
ruins, lived Owen Griffith. the last of
the wart 'doctors'.
Before
entering Aberdaron, on the righthandside
of the road in a small valley stands the
old house of Bodwrda,
home of a famous family from the C16 and
C17. |