abererch

abererch


Sarn



Adranau - Sections




BUSINESS

SERVICES

VISITING

HISTORY

Sarn

NEWS

VIEWS

MAPS

CHAT

Tudalen Cymuned Sarn Community Page

Lleolir bentref Sarn (SH 240325) yn ganol Llŷn. Y briffordd o Bwllheli i Aberdaron yn rhedeg drwy'r pentre a man ffyrdd o Dudweiliog, Garnfadryn a'r Rhiw yn canoli yno. Capel Salem y Presbyteriaid, ychydig lathenni o ganol y pentref ar y ffordd i'r Rhiw.

Eglwys Sant Pedr (San Petrus ad Vinculam - Pedr mewn cadwynau) wedi ei chwalu a gadael yr allor yn unig fel cofeb yn y fynwent.

Neuadd newydd yn cael ei hadeiladu (Gorff 2000) yn lle'r hen 'Neuadd Goffa' - adeilad sinc oedd wedi ei godi trwy ymdrech leol wirfoddol a chymorth arbennig Sefydliad y Merched ym 1923. Canolfan gymdeithasol - dramau a chyngherddau, Eisteddfod flynyddol a charnifal a choroni Brenhines y Blodau Bryncroes a'r Sarn o 1972. Neuadd Snwcer a Biliards a modd trefnu gemau.

Maes chwarae plant ar y chwith ar y briffordd wrth ddod i mewn i'r pentref. Prydau bwyd yn y tri gwesty a Caffi'r Felin. Penrhyn Arms yn llety gwely a brecwast. Canolfan hwylus ar gyfer nifer o barciau carafanau - Tŷ Mawr, Cae Newydd ayb.

Sarn is a small village, situated at the center of Llŷn.(SH 240325). It lies on the main Aberdaron to Pwllheli road with other small roads leading from Tudweiliog, Garnfadryn and Rhiw. Salem, the Presbyterian chapel is on the left about 100m along the road to Rhiw.

St Peters Church (San Petrus ad Vinculam - Peter in chains) on the road to Tudweiliog has recently been demolished leaving only the altar standing in the graveyard.

A new village hall is being erected (July 2000) to replace the old Memorial hall- a corrugated zinc structure, built through local fundraising and the W.I. in 1923.

The hall has always been used to hold many events from concerts and plays to the annual local Eisteddfod and Carnival Queen crowning since 1972. It also housed snooker and billiards and a place for organizing indoor sports.

There is a playing field on the way in from Pwllheli and good food to be had at the three hostelries and the Mill house. You can stay at the Penrhyn Arms or the nearby caravan sites - Tŷ Mawr, Cae Newydd etc.

Bryncroes


Gyda cymorth y Cyngor Cymuned

With the support of the community Council

llyn

©penLlŷn.com 2000-9