boduan

Bryngaer Garn Boduan Hill Fort

Mae'r fryngaer yma yn enghraifft ardderchog o olion trigolion cynharaf Llyn. Mae'r safle gofrestredig hon yn dyddio yn ôl i ddau gyfnod cyn Rufeinig gydag olion diweddarach ar y copa. Ar y llethrau deheuol a dwyreiniol ceir olion ffermydd cynar yn gysylltiedig a nifer (170) o gytiau gwyddelod oddi fewn ir muriau.

Y cyfnod cyntaf o adeiladu tua 300 C.C., a'r ail gyfnod tua 100 C.C. Yn wahanol i Garnfadryn ni ehangodd arwynebedd y fryngaer yn ystod yr ail gyfnod o adeiladu yn hytrach canolbwyntiwyd ar y gwaith o gryfhau'r waliau.

Mewn archwiliad a wnaethpwyd yn 1954 darganfyddwyd tystiolaeth o gerrig a ddefnyddiwyd mewn sling ac olion lampau golau ar y cerrig oedd yn dal y distiau yn y cytiau mwyaf. Darganfyddwyd darnau o grochenwaith a darnau o fwclis o amgylch y castell ar y copa. Mae y dystiolaeth frau yma yn cyd fynd gyda'r ddamcaniaeth ei fod yn gartref i Buan a oedd yn fab i Llywarch Hen, afyddai yn dyddio'r castell tua 600 i 650 A.C.

Gwybodaeth bellach.

The hillfort is an excellent example of the first inhabitants of Llyn. A listed monument it dates back to pre-roman times with a subsequent rebuilding and then a medieval fort built on the summit. On it's south and eastern slopes are two early farmsteads, associated with the numerous (170) hut circles in the enclosures.

The first period having been at around 300 B.C., and the second period at around 100 B.C. Unlike Garnfadryn the second period of building did not vastly increase the enclosed area but was concerned with massively increasing the width and height of the outer ramparts.

A survey carried out in 1954 uncovered evidence of sling shot pebbles and shed light on the post supports for the roofs of the larger round huts. Pottery shards and beads were found around the medieval 'castle' on the summit. The dating of this meager evidence is, however, not at variance with it being the residence of Buan, grandson of Llywarch Hen which would date it at around 600 to 650 A.D.

Overview

 

 
 

© penllyn.com 2000