llwyndyrys

  

Bryngaer Rhiw Hillfort


Mae bryngaer Rhiw wedi ei lleoli ar grib Creigiau Gwineu, i'r de o'r pentref, SH22802746. Mae'r creigiau yma yn rhedeg o'r gogledd ddwyrain i'r de orllewin, yr uchder yn 800 troedfedd uwch y môr.

Mae'r amddiffynfa yma yn defnyddio y crib serth naturiol fel mur ar hyd yr ochr ogleddol. Y mae'r tir yn gostwng yn fwy graddol ar yr ochr ddeheuol o'r amddiffynfa hyd nes y ceir ochr serth i lawr i'r môr. Bryngaer hirgrws sydd yma a'i maint yn 400 troedfedd o hyd wrth 188 troedfedd o led

Ar ochr ddeheuol a ddwyraeiniol yr amddifynfa codwyd wal sydd rhwng 6 a 11 troedfedd o led yn dilyn ffurf y tir ar uchder o 740 troedfedd uwch na'r môr. er fod y wal yma wedi ei hadeiladu mor llydon ychydig iawn ohoni sydd yn dal yn sefyll heddiw.Mae yna beth olion o wyneb y mur iw gweld mewn llefydd, gwelir gerrig traws yn cloi a cherrig hir yn ar i fyny yma ac acw. Er hyn mae'n ymddangos fod y rhan fwyaf o'r wal wedi ei llenwi yn y canol gyda cherrig man. Mae'r adeiladwyr wedi defnyddio cymaint o'r graig naturiol ag oedd bosibl, y mae'r graig iw gweld ar wyneb y tir mewn nifer o lefydd ar hyd y wal.

Ar ochor ddwyreiniol a hanner ffordd ar hyd yr ochor de-ddwyreiniol gwelir dwy hollt gul yn y muriau, ond y tebygolrwydd ydyw nad mynedfeudd gwreddiol i'r gaer ydyw y rhain. Mae prif fynedfa y gaer i'w gweld mewn hollt naturiol yng nghrib Creigiau Gwineu, yn wynebu'r gorllewin. Yn y man culaf mae'r fynedfa yn mesur tua 22 troedfedd o led, ond mae dymchweliad y garreg a wal ddiweddarach yn gorchyddio unrhyw fanylion o'r porth gwreiddiol erbyn heddiw.

Mae'r gaer wedi ei rhanu i ddau ran gyda wal rhyngddynt. Mae'r mur mawnol yn gyffelyb o ran maint i'r mur allanol, mae yn cychwyn ychydig i'r gorllewin o'r hollt yn y wal ddeheuol ac yn yn rhedeg tua'r gogledd orllewin dros graig drwy ganol y gaer, at rych fawr yn y wal ogleddo.

Heb archwiliad mae'n amhosibl dweud os yw'r amddifynfa yn Rhiw yn dilyn yr un patrwm a Garn Fadryn a Boduan. Gwelwyd dau gyfnod o adeiladu yn y rhain o bosibl yn dangos dau gyfnod gwahanol o ddefnydd. Wrth edrych ar y map isod nid hyn sydd yn digwydd yma, mae ffurf hirgrwn yr amddiffynfa yn cael ei hollti gan wal syth.

Y mae yna olion tri cwt crwn iw weld yn y rhan gorllewinol o'r gaer.(i) 20 troedfedd ar draws,yn agos i'r fynedfa, a (ii) 18 troedfedd ar draws, ac ychydig i'r gorllewin o hwn; a (iii) 16 troedfedd ar draws, yn cefnu ar y mur deheuol.

Y mae yna wal yn rhedeg o geg y porth tuag at y pentre am tua 125 o droedfeddi. Mae'r wal yma yn hyn na waliau eraill y caeau, ond gallasai hefyd fod yn ddiweddarach na waliau y Gaer.

Lleoliad - SH 22802746

Rhiw Hillfort is located at Creigiau Gwineu - SH 22802746, a long spine of outcrop running N.E-S.W, and rising to a height of nearly 8oo ft. above O.D.' overlooking the sea to the S. of the village of Rhiw. The outcrop forms an escarpment with a sheer cliff 30-40 ft.high along its N.W side, and a gentler slope on the S.E., seaward side.

The defences of the fort make skilful use of the natural features and incorporate the highest point of the ridge at their S.W. end. The fort is an elongated oval in plan, its main axis following that of the ridge, and is rounded at the N.E. but pointed at the S.W. end. It measures 400 ft. in length and 188 ft. in maximum breadth. At the S.W end and along most of the N.W. side the natural precipices serve as the only defence, though about half-way along the N.W. side the head of a narrow gully is walled off.

Elsewhere the defences consist of a single massive wall from 6 ft. to 11 ft. in width, following the 750 ft. contour round the N.E. end, falling to 740 ft. at the lowest point on the E., then rising steadily along to the S.E. side towards the highest point of the ridge. The rampart is faced in some places with orthostats and in others with roughly coursed dry walling, with a core of loose stones; large natural boulders or small outcrops of rock are incorporated in the line of the faces wherever possible. The whole length of walling is extremely ruined and seldom stands more than one course high for any distance.

On the E. and again about half-way along the S.E. are narrow gaps, 3 ft. 6 ins. and 6 ft. 6 ins. in width respectively, but neither is certainly original and the main entrance into the fort is formed by a large natural gully on the W., 22 ft. in minimum width, in which rock falls and the construction of a modern wall have completely masked any details of the original gateway.

The fort is divided into two 'wards' by a wall, similar in character and dimensions to the main rampart, running northwards from a point a little to the W. of the S.E. gap, over the rocky spine in the centre of the fort, to terminate on a bold crag on the N. side of the site.


Three circular huts are visible in the western 'ward': (i) 20 ft. in diameter, against the inner face of the rampartjust to the W. of its junction with the cross-wall; (ii) 18 ft. in diameter, a little to the W. of this; and (iii) 16 ft. in diameter, at the N.E. base of the tower of outcrop overlooking the S. side of the main entrance.


From the base of the north-western cliff, on the N. side of the entrance, a much ruined wall runs across the flat ground towards the N.W. for a distance of at least 125 ft. This is older than the present field walls but may be later than the hillfort.

SH 22802746


Bryngaer arall

Hynafion Eraill yn Rhiw

Other Hillforts

Other ancinet sites in Rhiw

 
 

© penllyn.com 2003