Archif Newyddion / News Archive

January 2001

Swyddog Bro Posted Monday, January 15, 2001 by penllyn
Mae Arwel Jones, Swyddog Bro newydd Pwllheli/Llyn, yn enedigol o bentref y Rhiw. Cafodd ei addysg yn Ysgolion Aberdaron a Botwnnog ac wedyn yn y Coleg Normal a’r brifysgol ym Mangor. Wedi cyfnod yn gweithio gyda’r cwmni teuluol treuliodd flwyddyn yn byw a theithio yn Awstralia. Ar ôl dychwelyd i Gymru bu'n gweithio fel Swyddog Bro i Gyngor Gwynedd yn Nyffryn Ogwen. Mae’n falch o’r cyfle i gael gweithio yn yr ardal y cafodd ei fagu ynddi, ac yn gobeithio y gall gydweithio’n llwyddiannus gyda grwpiau a chwmnîau cymunedol yn yr ardal. Gallwch gysylltu ag Arwel yn Swyddfa Ardal Dwyfor, Ffordd y Cob, Pwllheli, ar 01758 704120 neu - arwel@gwynedd.gov.uk

Cofio R.S. Thomas Posted Friday, January 12, 2001 by penllyn
Cynhelir noson arbennig yn Y Brifysgol, Bangor ar Ionawr 17, i ddathlu bywyd a gwaith R.S. Thomas. Trefnwyr y noson yw’r Academi Gymreig, ac ymhlith y cyfranwyr bydd Twm Morys, Robin Llywelyn, Emyr Humphreys, Gwyn Thomas, John Davies, yr arlunydd Kyffin Williams a Jason Walford Davies, a fu’n gyfrifol am drefnu’r recordiad o waith y bardd ddwy flynedd yn ôl. Mae rhaglen y noson yn cynnwys recordiad o R.S. Thomas yn darllen ei waith yn ogystal a cherddi teyrnged iddo. Mae'r noson yn dechrau am 7.30 o’r gloch yn Narlithfa’r Celfyddydau, Ffordd y Coleg, Bangor.

Pryderon wedi’r Tirlithriadau Posted Wednesday, January 10, 2001 by penllyn
Cafwyd dechrau digalon iawn i’r flwyddyn newydd pan laddwyd Mrs Shirley Race yn sgil y tirlithriad ar Lôn y Traeth, Nefyn. Yn dilyn misoedd o law cafwyd amryw o dirlithriadau mewn ardaloedd eraill ar hyd arfordir Llyn. Ni chafwyd, yn ffodus iawn, drychineb tebyg i’r un yn Nefyn, ond gall y gost ar sawl cyfrif fod yn ddrud iawn i nifer o ardaloedd. Bydd cau Lôn y Traeth yn peri cryn anhwylustod i bysgotwyr Nefyn. Er y gallant fynd at eu cychod, bydd yn rhaid iddynt fynd i draeth Morfa Nefyn er mwyn dadlwytho’u helfeydd.
Pryder arall gan ardalwyr Nefyn ydi na fydd y lôn yn ail-agor cyn yr haf ac y bydd hynny’n effeithio ar y diwydiant ymwelwyr. Gall fod yr oblygiadau yn fwy pellgyrhaeddol byth i drigolion y Rhiw fydd yn gorfod mynd filltiroedd o’u ffordd am beth amser i ddod os ydynt am deithio i gyfeiriad Pwllheli. Mae'r tirlithriad ar y lôn ger Plas yn Rhiw wedi effeithio ar 200 llath o’r ffordd ac mae’r Cyngor Sir yn rhagweld y bydd y ffordd yn parhau ar gau am gyfnod hir.
Mae problemau wedi bod yma ers y 196Oau ac mae gwaith wedi ei wneud i atgyfnerthu’r ffordd dros y blynyddoedd. Dywed y Cyngor y bydd yn rhaid gwneud asesiad manwl o’r sefyllfa cyn penderfynu sut i fynd ymlaen ‘Ni fydd gwaith dros dro yn addas y tro yma,’ m e d d a i Syrfewr Cyngor Gwynedd, Bob Daimond. ‘Mi fydd yn gostus iawn ond efallai y bydd yn bosibl cael grant gan y Cynulliad yn yr achos hwn.’


© penllyn.com 2000-9