Archif Newyddion / News Archive

January 2003

Ty Newydd Sarn Posted Tuesday, January 21, 2003 by penllyn
Roedd Tafarn Ty Newydd Sarn ar gau heno (nos Lun 20fed o Ionawr), wedi rhywun dorri i fewn a dwyn oddi yno neithiwr (nos Sul). Roedd y rheolwr yn disgwyl i arbenigwyr fforensig yno i archwilio fory.
---------------------------------------------------------------------------------------------------------

The Ty Newydd Sarn was closed this evening following a burglary on Sunday evening. The manager is expecting the police forensic bods to arrive tomorrow.

Canolfan Hyfforddi Forwrol i BwIlheli - Marine training Pwllheli Posted Tuesday, January 21, 2003 by penllyn
Mae Coleg Meirion-Dwyfor wedi gwneud cais am arian Ewropeaidd i adeiladu canolfan hyfforddi peirianneg morwrol dafliad carreg o farina PwIlheli. Os bydd y cais yn Ilwyddiannus, bydd adeilad yn cael ei godi ar hen safle bysiau Parry's ar stad ddiwydiannol y dref. Fe fyddai'r cyrsiau newydd yn amrywio o adnewyddu cychod i adeiladu peiriannau.
Hyd yma, nid yw'r hyfforddiant ar gyfer gweithlu lleol wedi bod ar gael yn lleol er bod ffyniant marinas yng Ngwynedd, Môn a Chonwy yn golygu bod gwaith da, sydd angen lefel uchel o sgiliau, ar gael.
Yn ôl Dafydd Wigley, 'Mae pwysigrwydd y prosiect yma yn siarad drosto'i hun bron, mae diboblogi yng nghefn gwlad Cymru yn rhywbeth sy'n fy i mhoeni yn ddirfawr, wrth i lawer o bobl ifanc lleol gael eu gorfodi i symud oddi yma oherwydd diffyg swyddi sydd angen sgiliau uchel ac sy'n talu cyflogau da.
'Mae gweledigaeth Coleg Meirion Dwyfor wrth sylweddoli pwysigrwydd prosiect fel hyn yn mynd i fynd beth o'r ffordd i greu gweithlu cryf a lleol. Ymhen rhai blynyddoedd, gobeithio y bydd manteision y ganolfan yma i'w gweld ar draws Cymru, yn enwedig ble mae'r môr a'r arfordir naturiol yn chwarae rhan allweddol.'
Mae Coleg Meirion-Dwyfor yn ddeng mlwydd oed eleni, ac ar ôl sicrhau £400,000 gan ELWa tuag at y syniad o sefydlu canolfan forwrol, mae'r Coleg yn gobeithio gallu dathlu'r degawd yn llawn hyder. (or Llanw Ion. 2003)
---------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Marine training Pwllheli
Coleg Meirion-Dwyfor the sixth form college in Pwllheli has made a bid for european funding to build a marine engineering center near the marina at Pwllheli. If the bid is accepted the new complex will be erected on the industrial estate, on the old Parry's coaches site.
New courses will include marine engineering, boat repairs and engineering. To date this kind of training has not been available locally even though there has been a vast expansion of marinas and berths around Gwynedd. This will now mean that this kind of work with high skill levels will now be available locally.
Dafydd Wigley said - " The importance of this project is evident, the de-population of rural Wales troubles me greatly, with many young people having to leave to find skilled, well paid jobs.
The vision of Coleg Meirion -Dwyfor will contribute to a strong and skilled workforce. In a few years the oportunities offered by this project will be seen across Wales."
Coleg Meirion-Dwyfor is ten years old this year and after securing £400,000 towards this project from ELWa, it looks forward to celebrating the fact from a position of strength and confidence for the future.

Lôn y Rhiw- Dim ymchwiliad cyhoeddus / New road for Rhiw Posted Tuesday, January 21, 2003 by penllyn

Mae cefnogwyr lôn newydd y Rhiw yn dathlu wedi i Sue Essex, Gweinidog Amgylchedd llywodraeth y Cynulliad benderfynu na fydd ymchwiliad cyhoeddus i adeiladu'r lôn wrth Sarn y Plas. Roedd dros gant wedi ysgrifennu i gefnogi'r cynlluniau a phymtheg yn erbyn.
'Rydw i'n falch iawn ein bod wedi cael sêl bendith y Cynulliad i fwrw ymlaen A'r cynllun yma,' meddai'r Cynghorydd Dafydd lwan, Cadeirydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd. 'Mae'n sefyllfa anodd, oherwydd cyfoeth amgylcheddol, gweledol a hanesyddol yr ardal, ac mae'r Cyngor wedi ymgynghori a thrafod yn helaeth i chwilio am yr ateb gorau. Y mae arbenigwr annibynnol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, CADW a'r Cyngor Cefn Gwlad yn cytuno mai'r opsiwn yma yw'r gorau dan yr amgylchiadau.'
Bydd y gost o adeiladu'r ffordd newydd tua £2 filiwn ac mae'r Cyngor wedi cael addewid o arian gan y Cynulliad. Y gobaith yw dechrau ar y gwaith yn yr hydref.
Mae Gwydion Thomas, mab R. S. Thomas wedi datgan y bydd yn parhau i wrthwynebu'r cynllun. (or Llanw Ion. 2003)
---------------------------------------------------------------------------------------------------------
New road for Rhiw
Supporters of the proposed new road to Rhiw are celebrating after it was announced that Sue Essex the environment minister for the Assembly would not allow a public enquiery into the proposed scheme. It was revealed that over a hundered letters of support for the road had been recieved and only 15 objections.
The cost of the new road is expected to be around 2 million. The council has been promised the funds from the Assembly. Gwydion Thomas, R.S.Thomas' son said he intended to continue to oppose the project that cuts through the bottom of the garden at Sarn Y Plas.
The news was, however, welcomed almost universally by the people who actually live in the area.

Palmentydd Abersoch Pavements Posted Tuesday, January 21, 2003 by penllyn

Mae problemau traffig a pharcio ym mhentref Abersoch yn cael sylw ac mae'r Cyngor Cymuned a Chyngor Gwynedd am glywed barn y pentrefwyr ar wahanol opsiynau. Bydd arddangosfa gyhoeddus yn y Neuadd yn Abersoch am bythefnos o 6 Ionawr ymlaen.
Yn ôl y Cynghorydd lleol, R. H. Wyn Williams, sy'n ymwybodol iawn o'r problemau, 'Mae'r palmentydd yng nghanol y pentref yn gul iawn, ac felly mae pobl yn cerdded ar y lôn ac mae prinder dybryd o lefydd parcio cyfleus i'r siopau a'r traeth.'
Un opsiwn fyddai palmentydd newydd, lletach o'r harbwr allanol i fyny at St. Tudwals; palmant bob cam o'r cae chwarae i'r ysgol ac o'r feddygfa i ganol y pentref Syniadau cychwynnol yn unig yw'r rhain. Cyn mynd A phethau'n bellach mae Cyngor Gwynedd eisiau barn y pentrefwyr a dyna bwrpas yr arddangosfa.
Ydych chi'n meddwl bod yna broblem? Ydych chi eisiau gweld rhywbeth yn cael ei wneud am y peth? Os oes, be? (or Llanw Ion. 2003)
---------------------------------------------------------------------------------------------------------
Abersoch Pavements
From the 6th of January an exhibition is being held in the village hall. Gwynedd council wishes to here the views of residents regarding plans for new pavements.


© penllyn.com 2000-9