Body washed ashore at Porth Neigwl Posted Wednesday, February 28, 2001 by penllyn
Human remains have been found washed up on the beach at Porth Neigwl on feb 18th and more on thursday 22nd following a police search. It is thought that the remains are of a male of no more than 40 yrs old and about 5'8 tall.
Foot and Mouth Anglsey Posted Monday, February 26, 2001 by penllyn
Foot & Mouth has been confirmed at an abattoir in Gaerwen on Anglesey today. The long awaited result confirms the worst fears of the farming community and will heighten fears that the disease may spread nearer to Llyn. Phone 01286 674144 for advice
“Does a wnelo hyn ddim â hiliaeth” Posted Wednesday, February 7, 2001 by penllyn
Be dwedodd y cyng. Seimon Glyn gan fo eu hyn.- Yn ystod mis Ionawr eleni cyhoeddwyd adroddiad gan Gyngor Sir Gwynedd ar y farchnad dai oddi fewn i’r sir. Roedd yr adroddiad yn cadarnhau fy mhryderon i ynglyn a’r sefyllfa dai a’r ffaith fod ein pobl ifainc yn methu fwyfwy â phrynu tai oherwydd bod mewnfudwyr, mewn rhai achosion, yn prynu popeth sydd ar werth. Roedd yr adroddiad yn dangos bod mewnfudwyr yn prynu tai ym mhob un o ardaloedd gwledig Gwynedd gydag ardaloedd megis Abersoch, Llanbedrog, Aberdaron a Thudweiliog yn dioddef yn ddrwg iawn gyda rhwng 60% a 100% o’r tai yn yr ardaloedd hyn yn cael eu prynu gan bobl allan i Wynedd Wrth geisio dadansoddi’r wybodaeth ac er mwyn ceisio datrys yr argyfwng sydd yn ein hwynebu ar hyn o bryd, rhaid ystyried rhai ffeithiau moel: Fel arfer mae cyflwr yr economi mewn unrhyw ardal yn dylanwadu ar y farchnad dai yn yr ardal honno, ac felly, gan fod cyflwr yr economi yn Llyn yn wan byddai disgwyl i brisiau tai fod yn isel. Yn anffodus, oherwydd cystadleuaeth gan bob1 o’r tu allan i’r ardal, mae prisiau ein tai ni yn llawer uwch. Mor uchel erbyn hyn fel bod y mwyafrif ohonynt ymhell tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf ohonom - a does dim gobaith bellach i bob1 ifainc sydd yn dechrau byw fedru cystadlu. Yr unig ffordd i ddatrys y broblem yw trwy ddeddfwriaeth. Mae gan y Cynulliad yr hawl i ganiatâu i gynghorau amddiffyn eu cymunedau trwy ymyrryd yn y farchnad dai. Rhaid mynnu yr hawl honno rwan er mwyn helpu pobl ifainc i aros yn eu broydd genedigol, os mai hynny yw eu dymuniad, trwy gynnig grantiau iddynt i brynu eu cartrefi cyntaf. Ffordd arall effeithiol o helpu pobl yw rhoi grym i’r cynghorau i brynu tai ar y farchnad agored ac yna eu gwerthu ymlaen am bris is o dan gynllun rhan-berchnogaeth i bob1 leol. Mae arian ar gael eisoes ar gyfer hyn - yr unig beth sydd ei angen yw arallgyfeirio canran o’r arian sydd wedi ei glustnodi i gymdeithasau tai ar gyfer adeiladu tai newydd i mewn i’r cynllun newydd. Byddai sicrhau tai ar gyfer ein pobl ifainc yn help i’w cadw yma. Byddai hyn yn hwb mawr i ddyfodol ieithyddol ein broydd. Byddai clustnodi canran o’r stoc dai ar gyfer diwallu angen lleol yn golygu bod llai o dai ar gael i fewnfudwyr.Mae llawer o son heddiw ein bod yn byw mewn cymunedau dwyieithog. Mae’r Cymry Cymraeg yn cofleidio’r egwyddor yn gynnes. Oni ddylai’r mewnfudwyr gofleidio dwy ieithrwydd hefyd? Cyn belled ag y mae’r mewnfudwyr yn y cwestiwn, mae Rawer ohonynt yn honni eu bod am ddysgu’r iaith - ond fe wyr llawer mai dim ond ychydig sydd yn llwyddo. Efallai fod angen sefydlu mwy o ganolfannau iaith a diwylliant er mwyn codi ymwybyddiaeth ymysg y rhai sydd yn symud i fyw i’n hardaloedd ac i gynnig cyfleoedd iddynt i ddysgu nid yn unig yr iaith Gymraeg ond am hanes a diwylliant yr ardal yn ogystal. Trwy godi’r materion hyn a mynegi fy mhryderon ynglyn â dyfodol ein cymunedau Cymreig, yr wyf wedi cynddeiriogi’r wasg, y cyfryngau ac yn enwedig felly y Blaid Lafur Brydeinig, Mae’n amlwg fod sefyll i fyny dros hawliau sylfaenol y lleiafrif a meiddio tynnu sylw at anghyfiawnderau yn cael ei ddehongli fel bygythiad gwirioneddol ac yn peri i’r sefydliad Prydeinig bondigrybwyll hwnnw sefyll yn reddfol fel un gwr yn fy erbyn. Deallais, ychydig ddyddiau wedi i fy sylwadau ymddangos yn y wasg a chael eu camddehongli yn llwyr gan y Blaid Lafur, fod y blaid honno yn bwriadu eu defnyddio dro ar ôl tro er mwyn creu embaras i Blaid Cymru. 0 glywed hyn penderfynais - er lles y Blaid - y byddwn yn cynnig fy ymddiswyddiad i arweinydd rhanbarth Dwyfor o grwp y Blaid ar Gyngor Gwynedd, Penri Jones. Gwrthododd Penri â derbyn fy ymddiswyddiad gan daer erfyn arnaf i aros fel aelod. Fe’m hargyhoeddwyd gan Penri bod Plaid Cymru yn gefnogol i fy safbwyntiau ac yn ystod y dyddiau canlynol derbyniais gefnogaeth gan lu o fy nghyd gynghorwyr, aelodau’r Blaid a hyd yn oed ganghennau, gan gynnwys cefnogaeth gan gangen Pen Draw’r Byd, yn ogystal â chefnogaeth pobl eraill trwy Gymru a thu hwnt. Rhaid i mi hefyd ddatgan fy niolch i Dafydd Wigley ac Alun Ffred Jones, Arweinydd Cyngor Gwynedd, am eu galwadau ffôn cyson i. mi yn ystod yr wythnosau diweddar i gynnig geiriau o gysur a chefnogaeth. Mae’n debyg fod y Blaid yn ganolog wedi rhoi yr argraff fy mod wedi ymddiheuro am yr hyn a ddywedais. Mae Arweinydd y Blaid, Ieuan Wyn Jones. wedi gwneud datganiad i’r wasg yn cyhoeddi fy mod yn ymddiheuro yn llawn. Hoffwn trwy gyfrwng y Llanw gadarnhau fy mod wedi ymddiheuro os oedd yr hyn a gafodd ei ddweud gennyf wedi peri loes a phryder i unrhyw un drwy gael ei dynnu allan o’i gyd destun, ei gamddyfynuu, neu drwy i mi gael fy ngham gymychioli gan y Blaid Lafur a’r wasg (mae’r Welsh Mirror wedi ei greu er mwyn hyrwyddo’r Blaid Lafur yng Nghymru ac er mwyn ymosod a thynnu Plaid Cymru i lawr ar bob gafael - ac wrth gwrs fe wyr pawb fod adrannau golygyddol y Daily Post a’r Cambrian News yn gwbl wrth Gymreig). Yr wyf fodd bynnag yn sefyll yn gadarn dros y ffaith fod ein cymunedau Cymreig dan fygythiad difrifol a bod rhaid gweithredu rwan trwy ofyn am ddeddfwriaeth i warchod ein hiaith a’n diwylliant. Does dim angen ymddiheuro am ddweud hyn. Mae’n gywilydd fod y sefydliad mor barod i bardduo ac ymosod mor ffyrnig ar unigolion am fynegi barn a phryder am faterion iaith, diwylliant a’r sefyllfa economaidd. Does a wnelo hyn ddim â hiliaeth, ond yr hyn sydd yn gwylltio cwn bach y sefydIiad yw fod pobl yn fy nghefnogi i ar y materion hyn. Bob tro y bydd ymosodiad arnaf yn y wasg byddaf yn derbyn llu o alwadau ffôn a llythyrau y dydd canlynol yn fy nghefnogi. Erbyn hyn mae drôr wedi ei neilltuo acw ar gyfer y llythyrau cefnogol a bydd llawer a fydd yn galw yn mwynhau mynd trwyddynt. Mae’n amlwg fod ymosodiad arna i yn bersonol am fod yn Gymro yn ymosodiad ar filoedd ohonoch chwithau hefyd.- Seimon Glyn. (o llanw llyn chwefror 2001)
|