Gwasanaeth post - Rural postal service Posted Friday, February 18, 2005 by penllyn
Bydd yr ail gasgliad post y dydd yn cael ei ddiddymu yn ardal côd post LL, oherwydd ei fod yn costio gormod i'w rhedeg. Bydd amser gwaith y gweithwyr yn cael ei newid. Y bwriad ydyw y bydd hyn yn golygu fod y gwasanaeth yn fwy effeithlon ac yn y pendraw yn sicrhau ei barhad ynghyd a sicrhau swyddi tymor hir.
blwch post ger Hirdre Tudweiliog dechrau wythnos diwaethaf -------------------------------------------------------------------------- Rural postal services in the LL postcode area are under threat according to North Wales Royal Mail Area manager Mr Ian Johnston. Due to increasing competition and the need to improve efficiency, second collections from the rural pedestal boxes will be cut. As a result of the single deliveries a day taking place later in the day, the second collection is extremely costly in terms of manpower as regards to the amount of post collected. Inevitable overtime and duty structures will be implemented along with the loss of services in the attempt to safeguard market share and long term job security.
ffair Bentymor -fair Pwllheli Posted Friday, February 18, 2005 by penllyn
Ymddengys fod yr hen ffair Bentymor a gynhaliwyd ym mhwllheli yn mynd i gael ei chynnal eto, ar dydd Sadwrn Ebrill 30fed. Y mae'r dyddiad wedi cael ei gadarnhau gan y cyngor dref a chyngor Gwynedd. Cynheli'r ffair fel rhan o'r dathliadau derbyn y siartar ym Mhwllheli 650 o flynyddoedd yn ôl. Rhoddwyd y siartar i Bwllheli gan y Tywysog Du yn 1355. Roedd yn draddodiad yn yr hen ffair bentymor i ffermwyr gyflogi gweithwyr. Gobeithir y bydd y ffair yn achlysur blynyddol gyda ffair a marchnad megis ffair Cricieth. --------------------------------------------------------------------------- A long standing fair looks set to making a comeback at Pwllheli. The 'Fair Pen Tymor' looks set to be re-introduced into the local calender on Saturday Aprill the 30th. The date has been approved by both the town council, and Gwynedd county council's licencing officer Amlyn Ap Iorwerth. This fair is to be held again in Pwllheli as part of the 650th Charter anniversary celebrations. The charter was given to Pwllheli by the Black Prince in 1355. This fair was a traditional hiring and firing fair for agricultural workers, and it is hoped that the fair and market will be an annual event with both a fair and market along the lines of Cricieths two annual fairs.
O Ddrws i Ddrws - Canolfan newydd Posted Wednesday, February 16, 2005 by penllyn
Roedd Stryd y Plas, Nefyn yn fwrlwm o brysurdeb fore Gwener, 4 Chwefror pan agorwyd Drws Agored yn swyddogol gan Hywel Williams A.S. Daeth twr o gefnogwyr yr achos ynghyd i weld penllanw tair blynedd o waith dygn ac yr oedd yn amlwg fod yr hyn a gyflawnwyd yn eu bodloni. Y mae 0 Ddrws i Ddrws, ers dwy flynedd bellach, wedi bod yn darparu cludiant cymunedol fforddiadwy ym Mhen Llyn ar gyfer y rhai hynny sydd angen cludiant o'r fath oherwydd oedran, afiechyd, anabledd neu oherwydd nad yw cludiant cyhoeddus yn ddigonol. Rhoddir blaenoriaeth i ofal iechyd ond ymgymerir hefyd a theithiau i gwrdd ag anghenion pob dydd er mwyn galluogi pobl i gymdeithasu a gwella ansawdd eu bywydau. Erbyn hyn mae trigolion Llyn yn hen gyfarwydd a gweld y cerbyd aml-bwrpas glas a gwyn gyda John Griffith, ein gyrrwr cyflogedig, yn cludo'r anabl i fannau pell ac agos. Ond dibynna'r fenter yn drwm ar wasanaeth rhwydwaith o wirfoddolwyr sy'n defnyddio eu ceir eu hunain i gwrdd ag anghenion dros ddau gain o gleientau. Er bod y defnyddwyr yn cyfrannu tuag at y costau rhaid i'r elusen ysgwyddo rhan helaeth o'r baich ariannol ac mae'r milltiroedd di-gyswllt - sef y pellter y mae'r gwirfoddolwyr yn ei deithio o'u cartrefi eu hunain i gartref y cwsmer ac yn ôl - yn gostus. Dyna pam mae angen cael gyrwyr ym mhob ardal ac ymroi yn ddi-baid i godi arian. Mae Adran Trafnidiaeth Cyhoeddus Gwynedd a nifer o bobl y penrhyn wedi bod yn haelionus ond nid hawdd yw dod o hyd i ffynonellau ariannol newydd, yn enwedig mewn ardal wledig fel hon ble nad oes ilawer o fusnesau mawr i noddi elusennau lleol.
Hywel Williams AS gyda Elaine Davies, un o sylfaenwyr Drws Agored, yn ystod agoriad swyddogol eu swyddfa newydd yn Nefyn ddechrau'r mis. Y ffactor yma a arweiniodd at y penderfyniad i brynu, adnewyddu ac addasu hen siop ger Y Groes yn Nefyn. Drwy wneud hyn yr oedd modd cael swyddfa heb dalu rhent ac ar yr un pryd gallesid gwneud darpariaeth ar gyfer unigolion ac asiantaethau eraill sy'n gwasanaethu'r gymuned a throsglwyddo'r elw a wneir i goffrau'r elusen. I'r perwyl hwn gwnaed ceisiadau llwyddiannus am grantiau i'r Cynulliad ac i Gyngor Gwynedd a derbyniwyd nawdd gan Nwy Prydain. Cwblhawyd y gwaith i safon uchel ac mae'r cymhorthion diweddaraf yn eu lle at wasanaeth defnyddwyr, ynghyd a chyfleusterau ar gyfer yr anabl. Mae yma swyddfeydd ar osod wrth yr awr neu yn ddyddiol ac ystafell gynhadledd eitha helaeth ar gyfer cyfarfodydd o bob math am bris rhesymol. Hefyd am delerau digon rhesymol, gellir liogi cyfrifiaduron wrth yr awr i wneud unrhyw waith neu i fynd ar y rhyngrwyd. Mae cyrsiau i oedolion wedi cychwyn yma'n barod a gwneir defnydd o'r ystafell gynghori. Mae croeso i unrhyw un ffonio Angela yn y swyddfa am ragor o fanylion neu alw i weld yr adnoddau sydd argael.
Os am ffynnu, rhaid i bob busnes ddatblygu a gwella, felly byddem yn falch o dderbyn awgrymiadau wrth baratoi ar gyfer y dyfodol. Byddem hefyd yn falch o glywed gan unrhyw un a ddymunai gynnig ei wasanaeth a'i arbenigedd. Y rhif ffôn ydy: (01758) 721777. (or Llanw chwefror 2005) ---------------------------------------------------------------------------
A new community centre was officialy opened by local MP Hywel Williams in Nefyn. The New centre is just off the groes at the top of stryd y plas in the old 'Mace' building. The Drws Agored (open door) centre is the base for the successful and vital 'o ddrws iddrws' service, the rural community transport system. This service now has 216 clients with two employees that are supported by a network of volunteers. This service is much more than a taxi service, it provides much needed contact, services and interaction with some of the most needy in this rural area. Angela Jones of Llanbedrog works as a receptionist at the centre, and John Griffith of Tudweiliog is one of the drivers.
Apart from the O ddrws i ddrws service, the centre also houses I.T. facilities and is the venue for courses being run by coleg Meirion Dwyfor. There are eight courses being run including language lessons, arts and crafts courses and I.T. classes. A community web-site is also being run from the centre called stiwdio Nefyn.- stiwdio-nefyn You can phone the centre - (01758) 721777 or go here- o ddrws i ddrws
SAFLEOEDD AILGYLCHU SYMUDOL / MOBILE RECYCLING SITES Posted Sunday, February 13, 2005 by penllyn
Bydd sgipiau cymunedol ar gyfer cael gwared ag eitemau o wastraff domestig ar gael yn y mannau canlynol, ar y dyddiadau a nodir, am gyfnod o wythnos ar y tro (MAWRTH I SADWRN) ------------------------------------------------------------ Civic Amenity skips will be provided for the disposal of items of domestic waste (not normal household refuse) at the following locations on the dates listed for a period of one week at a time (TUESDAY TO SATURDAY).
Rates rises debated Posted Saturday, February 12, 2005 by penllyn
Pwllheli town councillor Evan John Hughes has expressed disappointment at how senior county officials have not been forthcoming in providing information on the number of new administrative post created since the reorganisation eight years ago. This followed a meeting of local town and community council representatives and senior Gwynedd council representatives. The councillor said that previous requests had also gone unanswered. He is reported to have said "Surely we are entitled to know what impact such posts have had on our rates?" He also said that it was unacceptable that the level of funding from the assembly had only increased by 2.1% whilst many other councils would receive between 6-7.3%. Since local government re-organisation 8 years ago, the rates have doubled, imposing a heavy burden on a great many local ratepayers.
cctv - Pwllheli Posted Friday, February 11, 2005 by penllyn
Wedi blynyddoedd o ymgyrchu am gamerau cctv ym Mhwllheli, bellach mae'r lluniau cyntaf yn cael eu hanfon o Bwllheli i'r swyddfa heddlu yng Nghaernarfon. Mae'r datblygiad yn cael ei groesawu, er fod ychydig o waith eto i gwbwlhau ar y system. --------------------------------------------------------------------------- After almost ten years of campaigning, the cctv system is partly up and running. There is still some work to be done with BT sorting out problems with the wiring at one location, and sub-contractors needing to wait for brackets to install another camera. This aside, pictures are now being beamed to the police cctv centre in Caernarfon and even though it has taken years to arrive, it seems that this big brother is welcomed by most people, especially the traders.
Sunami Posted Thursday, February 10, 2005 by penllyn
Derbyniwyd rhoddion arian i helpu pobl Asia wedi trychineb y Sunami ar ôl y ddaeargryn dros y nadolig. Dyma rhai ymysg llawer o ymdrechion lleol i godi arian;- Cafwyd apel llwyddiannus faer Pwllheli Elfed Griffiths gyda blychau yn y siopau. Codwyd £500 gan ddisgyblion ysgol Llanbedrog. Cynhaliwyd ocsiwn yn Neuadd Goffa Chwilog a gododd £4,069. Trefniwyd yr ocsiwn gan bwyllgor o ardaloedd Y Ffôr, Llwyndyrys, Llangybi a Rhoslan a oedd yn gyfrifol hyd at hyn am godi dros £7,000. Cynhaliodd disgyblion ysgol Abersoch fore Coffi a gwerthu teganau a gododd £160. Codwyd digon o arian gan clwb y rotary Pwllheli i anfon 6 blwch acwa (werth £250 yr un) a fydd yn cael ei yrru i'r ardal. --------------------------------------------------------------------------- Local fund raising efforts have helped the people of Asia that were effected due to the devastating Sunami that hit the area following the earthquake at Christmas. Here are some of the local campaigns- An appeal was made by Pwllheli mayor Elfed Griffiths with collection boxes in Pwllheli shops, and was very successful. Pupils from Ysgol Llanbedrog also held a non-uniform day and raised £500. Another team effort resulted in an auction in Chwilog Memorial hall that raised £4,069. This was part of the fund raising activities of a committee in the Y Ffôr, Llwyndyrys, Llangybi and Rhoslan areas that have raised over £7,000. Pupils from ysgol Abersoch held a coffee morning and sold their unwanted toys to raise £160. Pwllheli rotarians also raised enough money from the christmas float to purchase 6 blue aqua boxes that will be sent out to the region.
Cynghorwyr Nefyn, Morfa, Edern / Councillors Posted Tuesday, February 8, 2005 by penllyn
Y mae cynghorwyr Nefyn, Morfa a Edern am gynnal sesiynau galw i mewn yn Drws agored, Stryd y Plas Nefyn. Bydd y sessiynau yn dechrau fore Sadwrn rhwng 10 a 12 o Chwefror y 12fed tan y Pasg. Meinir Jones Liz Saville Local Gwynedd county councillors Meinir Jones and Liz Saville who represent Nefyn, Morfa Nefyn and Edern will be holding drop-in sessions at Drws Agored stryd y Plas Nefyn. The sessions will be take place on saturday mornings between 10 and 12 from February the 12th until easter.
Trwsio bont Aberdaron - Bridge Posted Sunday, February 6, 2005 by penllyn
Gwnaethpwyd gwaith trwsio ar y bont yn Aberdaron yn dilyn damwain ychydig wythnosau yn ôl. ---------------------------------------------------------------------------- The bridge in Aberdaron has been re-paired following the accident involving a heavy vehicle a few weeks ago.
|