Archif Newyddion / News Archive

November 2002

El-Presidente!! Posted Saturday, November 23, 2002 by penllyn
Ar ol ymgyrch caled yn safle Coleg Meirion Dwyfor Pwllheli ,gwnaeth myfyrwyr y coleg ethol eu llywydd newydd.
Aimee Ann Duffy, o Nefyn sydd wedi ei dewis i wasanaethu dros Undeb Y Myfyrwyr dros y flwyddyn nesaf.
Yn ystod y cyfarfodydd brwdfrydig yn ffreutur cafodd yr ymgeisyddion y cyfle i bwysleisio eu rhan ac i roi eu polisi ymlaen i'w cyd fyfyrwyr.
Dywedodd Aimee , sydd yn astudio dylunio a thechnoleg , drama ac celf a dylunio ei bod hi'n gweld Undeb y Myfyrwyr yn gorff ofnadwy o bwysig ac yn gobeithio cyflenwi llawer o dargedau.Dywedodd bod yr undeb yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr rhoi ei barn am beth sydd yn mynd ymlaen yn y coleg.Mae Aimee hefyd yn gobeithio gweld mwy o weithgareddau rhwng y myfyrwyr yn y tri prif safle y coleg.
Yn dod yn ail i sicrhau sefyll fel is-lywydd daeth Lloyd Pestell o Borth y Gest , sydd yn diyn cwrs lefel A yn cerddoriaeth , cyfrifiadureg ac drama.Un targed sydd wedi apelio i llawer o'r myfyrwyr yw fod Lloyd yn anelu at gael bwrdd pool newydd i'r ffreutur.
Mae penaeth y coleg Dr.Ian Rees wedi croesawu y brwdfrydedd sydd wedi ei ddangos gan y myfyrwyr trwygydol eu ymgyrch , gan obeithio fydd y blas cynta yma o wleidyddiaeth yn sicrhau y byddent yn dal ati wedi iddynt adael.


© penllyn.com 2000-9