Archif Newyddion / News Archive
Cynllun Hen Felin -Aberdaron- Old mill Posted Thursday, November 18, 2004 by penllyn Canol Aberdaron yn dangos yr hen iard glo tua 1890 Roedd y cynllun yn cynnwys adfer yr Hen Felin ac adeiladu o'r newydd ystafell i arddangos hanes a diwylliant y fro, swyddfeydd ar gyfer llogi teithiau, canolfan wybodaeth i ymwelwyr siopau bychain a bwyty. Roedd cynlluniau hefyd i wneud gwelliannau amgylcheddol i ganol pentref. Sefydlu Cwmni Adfywio Melin Aberdaron (CAMA) fel cwmni cydweithredol cymunedol ym Mehefin 2003. Y gobaith oedd creu rhai swyddi amser llawn a nifer o swyddi rhan amser tymhorol i bobol leol, cyrchfan ar gyfer ysgolion, mudiadau pererinion, ymwelwyr a grwpiau o bob math Roedd y rhagolygon yn edrych yn addawol iawn. Cafwyd cefnogaeth i'r cynllun gan Gyngor Gwynedd, Cronfa Loteri'r Treftadaeth a CADW a buddsoddwyd bron i £20,000 o arian cyhoeddus i sicrhau llwyddiant y cynllun. Sicrhawyd cyllid pellach o £40,000 i gyflogi pensaer i baratoi cynlluniau manwl fyddai, ynghyd â'r Cynllun Busnes, yn galluogi'r pwyllgor i wneud cais an £1 miliwn. Bryd hynny roedd y Cwmni yr edrych ymlaen yn hyderus i ddechrau adeiladu yn ystod 2005. Yn ôl Bob Dorkins, aelod o'r pwyllgor, roedd y perchennog yn ymwybodol o'r datblygiadau drwy gydol y cyfnod ond, ar yr unfed awr a ddeg, hysbyswyd y pwyllgor, yn annisgwyl iawn nad oedd am werthu'r Felin na'r tir i'r Cwmni wedi'r cyfan. Cysylltodd Y Llanw â'r Dr Osian Ellis perchennog Yr Hen Felin, ond nid oedd yr awyddus i wneud sylw ar y mater. 'Er gwaetha'r siom, mae'r pwyllgor yr awyddus i ddal ati,' meddai Bob Dorkins 'Dydan ni ddim isio i'r holl waith dros y saith mlynedd diwethaf fvnd i'r wellt yn llwyr, meddai. 'Mae'r pwyllgor yn trio'i orau i fod yn gadarnhaol. Mae 'na lawer iawn o bres wedi ei wario a rydan ni wedi hel llawer iawn o arbenigedd, ac mi rydan ni ar hyn o bryd yn ceisio gweld a oes yna opsiynau eraill. Cawn weld.' --------------------------------------------------------------------- The people of Aberdaron have been left terribly disappointed following the shock announcement that the plans for the old mill at Aberdaron have fallen through. The committee are, however, commited to carry on with the vision of turning the old mill into something a bit more practical than the eyesore it has become over the years. Back in 1997 a local group was formed to re-generate the village. Following a questionnaire of local residents, it was decided to try and do something with the mill and the surrounding area and with the co-operation of the owner, a plan was drawn up by local architects. The plan that had a public airing was endorsed by local residents, and a community ran non-profit company was formed in June of 2003. The owner Dr. Osian Ellis has now decided at the eleventh hour to pull back from the sale of the property. Ail Agor y Fic - Y Fic Llithfaen re-opens Posted Thursday, November 18, 2004 by penllyn Tachwedd 19 yw diwrnod yr agoriad swyddogol gyda John ac Alun, ac Alun Ffred Jones AC, yn agor y dafarn ar ei newydd wedd. Mae gwybodaeth ar gael ar y wefan - www.tafarnyfic.com ------------------------------------------------------------------ The fic in Llithfaen has re-opened after the re-ferbishment. It will be opened officially on November the 19th by the popular country and western combo John ac Alun and by the Assembly member Alun Ffred Jones. SAFLEOEDD AILGYLCHU SYMUDOL / MOBILE RECYCLING SITES Posted Saturday, November 13, 2004 by penllyn ------------------------------------------------------------ Civic Amenity skips will be provided for the disposal of items of domestic waste (not normal household refuse) at the following locations on the dates listed for a period of one week at a time (TUESDAY TO SATURDAY). Y Ffordd i bentre Y Rhiw - Road to go ahead at last! Posted Friday, November 5, 2004 by penllyn Not that this may be the only reason why this public phone has not been used enough to make it economicaly viable, but since the road closure, this phone box was located on a cul-de-sac. Y BBC |
© penllyn.com 2000-9