Archif Newyddion / News Archive

November 2005

Ysgolion yn wynebu Newid Posted Monday, November 14, 2005 by penllyn
Cofiwch i stori flaen y Llanw y mis diwethaf son am gynlluniau Cyngor Gwynedd i newid trefn ysgolion cynradd Llyn - a gweddiil ysgolion gwledig y sir wrth ragweld gostyngiad yn nifer eu disgyblion.

Ers hynny, cynhaliwyd cyfarfod ar gyfer holl lywodraethwyr ysgolion cynradd dalgylch Botwnnog lle cyflwynodd pennaeth ysgolion y sir, Dr Gwynne Jones, adroddiad manwl yn amlinellu gweledigaeth y Cyngor. Y drefn sy'n cael ei ffafrio yw i ffederaleiddio neu glystyru ysgolion (sef, rhannu pennaeth a chorff llwyodraethol rhwng dwy neu ragor o ysgolion). Bu sôn hefyd am y posibiliadau o gau ysgolion gan ganoli'r addysg gynradd mewn ysgol fro, er y dylid nodi nad yw'r Cyngor yn dymuno cau unrhyw ysgol.

Roedd nifer o lywodraethwyr, rhieni ac athrawon yn bryderus iawn wedi'r cyfarfod a gynhaliwyd ym Motwnnog ym mis Hydref. Un a fu yno oedd y Cynghorydd Liz Saville,

'Rhaid cytuno bod gwasanaethu ardal wledig gyda phoblogaeth isel a gwasgaredig, megis LIyn, yn gostus. Mae cynnal pennaeth ym mhob ysgol yn ddrud. Os mai arbedion ariannol yw'r unig ystyriaeth, hawdd dod i'r casgliad mai lleihau nifer y prifathrawon yw'r ateb darbodus. Ond mae ystyriaethau eraill, megis ansawdd addysg em plant ac, i raddau, Cymreictod ein cymunedau. Oes, mae'n rhaid bod yn effro i'r angen i arbed arian, ond ffolineb fyddai neidio I newidiadau heb geisio canfod y canlyniadau.'

I raddau helaeth, mae'r drefn Ffederaleiddio heb ei phrofi. Mae arolygwyr wedi brolio nifer o ysgolion Llyn mewn adroddiadau disglair yn ddiweddar ac mae dylanwad em hathrawon ymroddedig yn mynd tu hwnt i ddysgu ysgrifennu a mathemateg. Mae'n debyg hefyd bod maint ein hysgolion yn Llyn yn cyfrannu at eu llwyddiant wrth gyflwyno'r iaith i ddisgyblion o gartrefi diGymraeg, ac at y Gymraeg a glywir ar wefusau plant yn yr iard chwarae. Beth yn union fydd effaith y drefn newydd ar addysg ein plant?

Mae disgwyl i lywodraethwyr pob ysgol gynradd yn Llyn anfon eu hawgrymiadau am sut bydd eu hysgol yn cyfrannu at yr addrefnu erbyn dechrau Rhagfyr.
o'r Llanw.


Amddiffyn ysgolion Gwynedd 1970
Hanes Ysgol Bryncroes

Gosod Sylfeini Cadarn - Laying strong Foundations Posted Saturday, November 12, 2005 by penllyn
Sawl gwaith da chi 'di clywed pobi yn cwyno nad oes digon o adeiladwyr, seiri, plymars a trydanwyr ar gael pan mae rhywun eu hangen nhw? Wel, mae Partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf Pen Llyn am wneud rhywbeth am y peth.

Dros y misoedd diwethaf cynhaliwyd gwaith ymchwil o fewn y diwydiant adeiladu i ddarganfod os oedd modd datblygu cynllun prentisio lleol i sicrhau fod yna gyfleon yn cael eu cynnig i bobl ifanc yr ardal, ac os oedd modd hwyluso'r gwaith o hyfforddi prentis o ochr y cyflogwr.

Mae'r bartneriaeth bellach wedi Iansio cynllun 'Cyswllt Prentisio' fydd yn cynnig gwasanaeth paru er mwyn dod a darpar brentis a chyflogwr at ei gilydd ac mae cynlluniau hefyd i ysgafnhau'r baich gweinyddol sydd ynghlwm a chyflogi prentis. Mae'r bartneriaeth hefyd yn cydweithio yn agos gyda Ysgol Uwchradd Botwnnog, sydd am y tro cyntaf eleni yn cynnig cwrs TGAU mewn Adeiladu. Byddwn hefyd yn cydweithio gyda'r ysgol i gynnig cyrsiau gyda'r nos i rai sydd eisoes yn gweithio o fewn y diwydiant.

Mae cynlluniau eisoes yn cael eu Ilunio i ymestyn y cynliun i gynnwys diwydiannau eraill, gan ystyried y gwersi ddysgwyd hyd yma.

Bydd rhoi cymorth i brentisiaid heddiw yn gofalu fod gwaith parhaol ar gael i'r dyfodol a na fydd yr ardal yn dioddef o brinder crefftwyr.


Ffoniwch Cyswllt Prentisio - 01758 730309
---------------------------------------------------------------

Laying strong Foundations
How many times have you heard people complaining that there aren't enough builders, joiners, plumbers and electricians available when you need them? Well, the Pen Llyn Communities First Partnership is going to do something about it.
During recent months research was conducted within the construction industry to gauge the feasibility of developing a local apprenticeship scheme in order to ensure that opportunities are available for the young people of the area, and facilitate the work of training an apprentice for employers.

The Partnership has now launched it's 'Apprenticeship Link' scheme that will offer a 'matchmaking' service Intended to bring together prospective apprentices and employers; and there are also plans to lighten the administrative burden involved in employing an apprentice.

The Partnership also cooperates closely with Ysgol Botwnnog that will, this year, be offering a GCSE course in Construction for the first time. We shall also be working in partnership with the school to offer evening classes for those who are al ready working in the industry.

Plans are already being drawn to extend the scheme to include other industries, taking note of lessons learnt to date.
Supporting today's apprentices will mean that permanent work shall be available in the future and that the area will not suffer from a lack of craftspeople.
Phone Apprentice Link on- 01758 730309


© penllyn.com 2000-9