Archif Newyddion / News Archive

March 2003

Galw am wasanaeth Band-llydan - Calls for Broadband Posted Tuesday, March 11, 2003 by penllyn
Mewn araeth gan y Cyng. Dafydd Iwan yn Ysgol Botwnnog yr wythnos ddiwethaf galwodd am wasanaeth band-llydan i Lyn. Gwnaeth yr anerchiad agoriadol mewn noson a drefnwyn yn yr ysgol fel rhan o ddiwrnod agored yn ymwneud a gyrfaoedd. Un o brif themau y diwrnod oedd technoleg gwybodaeth. Roedd nifer o fusnesau a sefydliadau yn cymeryd rhan er mwyn gwasgaru gwybodaeth am wahanol yrfaoedd a chyflogaeth yn yr ardal.
Cafwyd cefnogaeth i'r alwad am Fand-llydan gan eraill yn y gynhadledd. Dywed Simon Jones o penllyn.com, fod Llyn un yn rhy ymylol ac mewn perygl o gael ein anghofio un waith eto oni bae ein bod yn mynu ein hawl i'r gwasanaeth rwan.
Danghoswyd yno rai o'r cyfleon a'r posibiliadau y gall y dechnoleg yma ei gynnig i ardal fel Llyn cyn belled ag y mae gwaith yn y cwestiwn, ond heb y gwasanaeth band-llydan sydd ei angen i wneud y defnydd gorau bosib o'r dechnoleg, mae yn berygl y bydd Llyn yn cael ei gadael ar ol. Gall y gwasanaeth band-llydan olygu mwy o fanteision i ardal ddiarffordd wledig fel Llyn nag i unrhyw le arall. Gallai olygu nad ydyw pellder diarffordd Llyn bellach yn rhwystr i gyflogaeth yn yr ardal ag y byddem yn gallu datblygu cyneladwyaeth ar gyfer pobl ifanc, ond i wneud hyn mae yn rhaid i ni gael isadeiliaeth technoleg gwybodaeth ar gyfer band-llydan yma yn Llyn.
Mae penllyn.com wedi bod yn gweithio ar sawl lefel tuag at ofalu fod Llyn yn cael y ddarpariaeth yma. Mae cysylltiadau wedi eu gwneud gyda'r gymuned leol, Cyngor Gwynedd, Coleg Meirion Dwyfor, Y Coleg Digidol a'r Cynulliad Cenedlaethol. Y mae penllyn.com wedi bod yn gweithio ar ddatblygu syniadau a chynal trafodaethau ar sut i gael darperiaeth band-llynan am bris rhesymol i Lyn. Mae safle ar-lein newydd wedi ei gosod - llyn.net ar gyfer datblygu y prosiect ymhellach. Dyma un or datblygiadau sydd yn gofyn i popl leol gymeryd rhan a chyfranu tuag at syniadau a bod yn rhan or datblygiad pwysig yma i Lyn.
Cyfranwch- llyn.net
----------------------------------------------------------------------------------------
Cllr. Dafydd Iwan made a call for broadband for Llyn in a speech at Ysgol Botwnnog last week. The opening speech was made to the public attending the evening session of a careers conference. One of the main themes of the conference was Information technology. Many local companies and Organisations were at the event with guidance on career and employment opportunities.
The call for broadband and a general improvment in information technologies infrastructure and diversification of delivery was echoed by organisations taking part in the event. Simon Jones of penllyn.com said that Llyn was once again on the perifery and that unless there was action taken now, Llyn and it's residents would be left the wrong side of a widening digital divide.
The conference showed some of the possibilities that technology could bring to employment in the area, but unless affordable high speed connections could be made with the rest of the world, other areas would romp ahead. This rural area could reap greater benefit from broadband due to the lack of other infrastructure. The ability of desktop computers opens the doors to home working, re-location and remote networking. Llyn's remotness could finally not be an obstacle to generating local employment and sustainable development for our youth if an information technology infrastructure was put in place.
To this end Penllyn.com has been working at all levels from the grass roots in the communities, Gwynedd county council, Coleg meirion Dwyfor, Y Coleg Digidol and the Welsh Assembly. Penllyn.com have been working about a year now on developing ideas to bring affordable broadband to Llyn. A new website - llyn.net has been set up as an online site for developing the project. This is one aspect of the development of the project that penllyn.com hope local people will actively take part in - visit llyn.net and register to contribute and be part of the development of an important component in llyn's economic future.

£10m o ffordd - New £10m road Posted Tuesday, March 11, 2003 by penllyn
Mae'r cynulliad wedi penderfynnu eu bod am arianu gwella'r ffordd rhwng Abererch a Llanystymdwy. Mae'r cynlluniau ar y gweill ers amser maith tra roedd aros am benderfyniad yn dilyn ymchwil gyhoeddus i mewn i'r mater
Roedd rhai ffermwyr lleol yn gwrthwynebu lleoliad y ffordd newydd. Mae disawyl y bydd y ffordd newydd yn cael ei chwbwlhau erbyn haf 2005. Mae Sue Essex gweinidog yr amgylchedd wedi galw ar i'r cyngor ofalu fod cyn lleiad a ffosib o niwed yn cael ei wneud i'r amgylchedd.
----------------------------------------------------------------------------------------
The Welsh Assembly have finally given the go ahead for a £10million plan for improvements to the road between Abererch and Llanystymdwy. There has been a long wait for this final desision to be made whilst all views were considered following a public enquiery.
There have been objections from farming communities following the details of the proposed route. The new 6.5km road will be expected now to be completed by the summer of 2005. Minister for the environment, Sue Essex is reported to have asked the council to ensure that ther is a minimal environmental impact.

Ysbwriel ar y strydoedd - Rubbish on the Streets Posted Tuesday, March 11, 2003 by penllyn
Un waith eto mae ysbwriel ar y strydoedd ym Mhwllheli yn achosi helynt rhwng y trigolion a'r cyngor. Mae Siambr Fasnach Pwllheli wedi anfon llythur i adran Iechyd y Cyngor.. Mae Ysgrifenydd y Sambr Mr David Hughes wedi gwneu sylwadau am ei anfodlonrwydd gyda'r llanast sydd yn cael ei achosi gan rai, pan mae'r masnachwyr yn rhoi yr ysbwriel allan yn wythnosol.
Dywed Mr David Hughes y gallai yr helynt gael ei osgoi pe bae y Cyngor yn hel yr ysbwriel am 6 nos Lun yn hytrach na'i adael tan fore Mawrth. Cefnogwyd yr achos gan gynghorwyr y dref. Datganodd Mr Glyn Roberts and Mr Eric Wyn Roberts fod yr achos yn bryder iddynt hwythau hefyd. Yn ol y son mae cynrychiolydd o'r cyngor wedi dweud eu bod yn agored i syniadau cyn belled na fydd mwy o gost ar y Cyngor...i gario ymlaen
---------------------------------------------------------------------------------------
Rubbish is once again raising its ugly head as a bone of contention between people in Pwllheli and the council. Pwllheli Chamber of Commerce have sent a letter the the Council's Health Dept.. The Chambers' Secretary Mr David Hughes has been voicing his opinions this week about the unacceptable mess that is caused by some sections of the community when Pwllheli traders put the rubbish out for weekly collection.
The problem could be solved he said if the rubbish was collected by the council at 6pm on Monday evening, rather than leaving it on the street on Monday evening and collecting on Tuesday morning. Pwllheli town councillors backed the call for something to be done this week. Councillors Mr Glyn Roberts and Mr Eric Wyn Roberts also expressed concern. A council spokesperson is reported to have been open to sugestions as long as they could be implemented without extra costs... to be continued.

Cynhadledd Gyrfaoedd - careers information conference Posted Tuesday, March 11, 2003 by penllyn
Yr wythnos diwethaf cynhaliwyd diwrnod gyrfaoedd yn Ysgol Botwnnog. Trefnwyd y digwyddiad gan Gwmni Gyrfa Cymru mawn cydweithrediad gyda chwmniau lleol, y Cyngor ac eraill a oedd yn brsenol yn cynnig cyngor gyrfaoedd i'r myfyrwyn ac i'r cyhoedd. Roedd y digwyddiad mewn dau ran agorwyd yr ail ran gyda anerchiad gan y Cyng. Dafydd Iwan.
Dwy brif themau y diwrnod oedd technoleg gwybodaeth a'r diwidiant Morwrol. Roedd Coleg Meirion Dwyfor yno yn cynnig y cyrsiau morwrol newydd sydd ar gael yn y Coleg.
---------------------------------------------------------------------------------------

A careers information conference was held last week at ysgol Botwnnog. The conference was organised by Gyrfa Cymru, working closely with the Council and Others. The event was held in two sessions, with the evening session open to the wider community.
Councillor Mr. Dafydd Iwan opened the evening session where many organisations were offering advice and information to assist school pupils and the wider community on career and employment. Two of the main themes of the event were information technology and the Marine Industry. Coleg Meirion Dwyfor were amongst the exhibitors showing the new marine courses it will be starting this september.


© penllyn.com 2000-9