Archif Newyddion / News Archive

May 2006

Llwybr arfordir Llyn - Llyn coastal path Posted Thursday, May 18, 2006 by penllyn
Mae llwybr 95 milltir o amgylch arfordir Llyˆn wedi cael ei agor yn swyddogol. Drwy ddilyn y llwybr arfordirol gall cerddwyr weld traethau, bryniau a rhostir a bydd cyfle i ymweld â threfi a phentrefi arfordirol yn ogystal â llefydd fel Eglwys Clynnog Fawr, Nant Gwrtheyrn, Eglwys Pistyll, Plas yn Rhiw, Plas Glyn y Weddw a'r Lôn Goed.



Mae'r llwybr yn cael ei hyrwyddo fel ffordd o gadw'n heini ac er ei fod eisoes ar y map ymwelwyr mae Cyngor Gwynedd am weld trigolion lleol yn ei ddefnyddio hefyd. "Mae'r farchnad ar gyfer ymwelwyr sy'n cerdded yn bendant ar gynnydd," meddai Wyn Evans, y swyddog sy'n gyfrifol am y cynllun. "Ond rydyn ni am i bobl leol ei ddefnyddio hefyd i ddod yn heini," meddai. Mae'r llwybr wedi ei sefydlu gan y cyngor a Chyngor Cefn Gwlad Cymru ar hyd llwybrau cyhoeddus, ffyrdd tawel a thiroedd lle mae hawl i fynediad.

"Mae cerdded yn cael ei ystyried fel un o'r ffyrdd gorau sydd ar gael o gadw'n heini a dwi'n falch iawn o weld y datblygiad hwn yn symud ymlaen," meddai'r cynghorydd Tomos Evans. "Mae'r llwybr arfordirol arbennig hwn yn adnodd gwerthfawr sy'n cysylltu nifer o safleoedd sydd o ddiddordeb mawr yn ddiwylliannol, hanesyddol ac amgylcheddol, gyda rhan fawr o'r llwybr yn dilyn y fan lle teithiodd pererinion yn ystod eu taith i Ynys Enlli. "Rydyn ni'n gobeithio y bydd agor y llwybr yn swyddogol o fudd i fusnesau lleol oherwydd y cynnydd mewn lleoedd diddorol i bobl i gerdded a mwynhau yn Llyˆn," meddai.

Dywedodd Wyn Evans fod gwaith wedi bod yn cael ei wneud ar y llwybrau ers rhai blynyddoedd ond mai'r hwb olaf oedd prosiect arbennig dros y 12 mis diwethaf. "Yn y dyfodol dwi'n edrych ymlaen at lwybr a fydd yn mynd o gwmpas holl arfordir Cymru," meddai. "Ond am rwan gall y llwybr hwn yn Llyˆn gael ei ddefnyddio i hybu'r ardal."

--------------------------------------------

The 95 miles of the Llyn coastal path has been officialy opened. The path allows ramblers to take in some of the most outstanding views in wales. It covers some diverse environments from upland heaths, cliffs, villages and sandy beaches. Some of the places en-route incude Clynnog Fawr Church, Nant Gwrtheyrn, Pistyll Church, Plas yn Rhiw, Plas Glyn y Weddw and Lôn Goed.

======================================================================

Rhwyfo i Iwerddon mewn 11 awr a hanner Posted Sunday, May 14, 2006 by penllyn
Nod y pum aelod o Glwb Rhwyfo Pwllheli ddydd Gwener oedd croesi o Borth Oer i Benrhyn Wicklow - taith o ryw 50 milltir - mewn 12 - 15 awr. Ond llwyddodd i tîm i groesi mewn 11 awr a hanner gan sefydlu amser ar gyfer y croesiad fel bod timau eraill yn gallu ei herio yn y dyfodol.

Cyn y ras dywedodd Eifion Owen, darlithydd yng Ngholeg Meirion-Dwyfor sydd eisoes wedi hwylio a hwylfyrddio dros y Môr Celtaidd, fod yr her "yn cael ei hadnabod fel y Sialens 6°G gan y byddwn yn atal y cloc unwaith ein bod yn croesi y linell meridian 6° Gorllewin sy'n rhedeg i lawr drwy Benrhyn Wicklow".

"Rydym i gyd yn ymarfer yn galed ers rhai wythnosau bellach i wella'n ffitrwydd ac i baratoi'r corff ar gyfer y sialens unigryw hon," meddai.

48 milltir morwrol sy'n gwahanu Porth Oer a Phenrhyn Wicklow ond fe all y daith fod yn hirach na hynny oherwydd effaith gwyntoedd a thonnau. Roedd pedwar ohonyn nhw'n rhwyfo ar unrhyw adeg gydag un yn llywio ac roedd pob aelod o'r criw yn llywio'r cwch yn eu tro.

Roedd y rhwyfwyr yn defnyddio'r sialens i godi arian at wasanaeth ambiwlans awyr Cymru. Hefyd y gobaith oedd sbarduno diddordeb mewn rhwyfo Celtaidd gan ddenu mwy o aelodau i Glwb Rhwyfo Pwllheli gafodd ei sefydlu yn 2001.
"Fe fyddwn ni'n cynnal diwrnod agored yn Nhraeth Glan don Pwllheli ar Fai 20 i'r perwyl yna," meddai Geraint Hughes.(Cadeirydd y clwb)

----------------------------------------------------------------------

Five members of Pwllheli rowing club set off from Portoer on friday morning at five o'clock. Their aim was to make the crossing to Wicklow in a time frame of 12-15 hours. They achieved their goal of rowing the 50 nautical miles in just 11 and a half! This has set a record for future teams from the club to try and beat.

Before the race, Eifion Owen explained that the chalenge was called the 6° challenge. The 'finishing line' was the 6° West meridian line that runs through the Wicklow peninsula. There were 4 members rowing at all times, with the fifth at the tiller. They also managed to raise money for the air ambulance.

======================================================================

Prif Weithredwr newydd CYTÛN - New Chief Executive of CYTÛN Posted Thursday, May 4, 2006 by penllyn
Y Parchedig Aled Edwards fydd Prif Weithredwr newydd CYTÛN: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru.Tros gyfnod o saith mlynedd bu Aled yn Swyddog Cyswllt CYTÛN ar Gyfer y Cynulliad Cenedlaethol.Y mae gan Aled radd mewn Hanes a Diwinyddiaeth o Goleg Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan lle y bu hefyd yn Llywydd Undeb Gristnogol y Coleg.
 
Cafodd Aled ei hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth i’r eglwys Anglicanaidd yng Ngholeg y Drindod, Bryste, a chafodd ei ordeinio yn Esgobaeth Bangor yn 1979. Am gyfnod o wyth mlynedd (1985-93) gwasanaethodd fel rheithor prosiect eciwmenaidd lleol rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru ym Motwnnog ar Benrhyn Llyˆn, Gwynedd cyn ei sefydlu yn Ficer plwyf allweddol, Cymraeg ei iaith, Eglwys Dewi Sant Caerdydd.
 
Daw Aled i swydd Prif Weithredwr CYTÛN ymrwymiad cryf i eciwmeniaeth ac mae ganddo broffil cyhoeddus yng Nghymru fel ymgyrchydd ar ran ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Y mae ganddo hefyd wybodaeth drylwyr o wleidyddiaeth ddatganoledig Cymru. ‘Y mae gennyf argyhoeddiad cryf’ meddai Aled ‘y daw eciwmeniaeth o ewyllys Dduw ar gyfer yr eglwys a’i fyd. Credaf yn angerddol mewn Cymru sy’n fan ar gyfer dwyn pobl at ei gilydd mewn cenedl fyw sy’n meddu ar ymdeimlad newydd o genedligrwydd mewn cymdeithas lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl - yn arbennig y difreintiedig a’r bregus. Edrychaf ymlaen yn fawr at gael adeiladu ar waith da fy rhagflaenydd yn CYTÛN’
 
Y mae Aled yn gadeirydd nifer o gyrff gwirfoddol yn cynnwys Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Displaced People in Action.Y mae’n Gymrawd y Sefydliad Materion Cymreig.
 
Bu’n weithgar yn sefydlu Cyngor Aml Ffydd Cymru yn 2001 a Fforwm Cymunedau Ffydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi hynny. Ef hefyd fu’n cynhyrchu neu’n cymryd rhan mewn nifer o ddathliadau neu wasanaethau cenedlaethol i ddathlu agor y Cynulliad Cenedlaethol yn 1999, defod Cymru’n Cofio yn 2005 i goffau pasio 60 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd a’r gwasanaeth coffau cenedlaethol a gafwyd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd y llynedd.
 
Yn gyfrannydd cyson i raglenni teledu a radio yn Gymraeg a Saesneg y mae hefyd wedi ysgrifennu’n helaeth gan gynnwys Transforming Power - A Christian Reflection on Welsh Devolution ac Ystyried Gwahaniaethau a Gobeithion - Golwg ar Ddatganoli o Safbwynt Ffydd ar y cyd gyda Graham Blount, Swyddog Seneddol Eglwysi’r Alban. Y mae’n ysgrifennu erthyglau wythnosol ar gyfer gwefan BBC Cymru’r Byd.
 
Bydd y Parchedig Aled Edwards yn olynu’r Parchedig Gethin Abraham-Williams, fydd yn ymddeol fel Prif Weithredwr CYTÛN ddiwedd Awst. Gan groesawu apwyntiad Aled, dywedodd Gethin ‘Bendith i CYTÛN fydd cael Prif Weithredwr o’i gefnid a’i brofiad, ac mae’n rhoi boddhad mawr i mi wybod y bydd yn fy olynu yn y weinidogaeth arbennig hon o alluogi’r eglwysi i ddirnad yr hyn sydd ganddyn nhw’n gyffredin a sut y gallant weithio gyda’i gilydd mewn cenhadaeth a gwasanaeth yn y Gymru newydd ac ymhellach.'
 
Mae Aled yn briod i Marie, therapydd iaith a lleferydd. Y mae ganddyn nhw dri o blant sy’n oedolion: Seimon, Meleri a Steffan. Y mae ganddo ddiddordeb angerddol mewn rygbi Cymreig gan gefnogi Scarlets Llanelli. Y mae ei ddiddordebau eraill yn cynnwys gwylio  Star Trek a’r sioe wleidyddol boblogaidd Americanaidd The West Wing.
Rhif Ffôn Symudol: Y Parchedig  Aled Edwards 0775 144 6071

----------------------------------------------------------------------

The Revd Aled Edwards is to be the new Chief Executive of CYTÛN: Churches Together in Wales.For the last seven years Aled has been the CYTÛN National Assembly for Wales Liaison Officer. Aled is a joint honours graduate in History and Theology of the University of Wales, Lampeter, where he served as President of the College’s Christian Union.
 
Aled trained for the Anglican ministry at Trinity College, Bristol, and was ordained in the Diocese of Bangor in 1979. For eight years (1985-93) he served as rector of a joint Anglican/Presbyterian Local Ecumenical Project on the Llyˆn Peninsula in Gwynedd before becoming Vicar of the key Welsh language parish of Eglwys Dewi Sant in the centre of Cardiff.
 
Aled brings to the post of CYTÛN Chief Executive a strong commitment to ecumenism and a public profile in Wales as a campaigner for asylum seekers and refugees. He also has a thorough knowledge of devolved Welsh politics. 'I have a deeply held conviction,' Aled says, 'that ecumenism flows from the very will of God for his church and world. I believe passionately in a Wales where people come together in a vibrant and new sense of nationhood in a society where no-one gets left behind – especially the most vulnerable and excluded.’
 
Aled chairs a number of voluntary bodies including the Welsh Refugee Council and Displaced People in Action. He is a Fellow of the Institute of Welsh Affairs.
 
He helped set up the Inter-Faith Council for Wales in 2001 and subsequently the National Assembly's Faith Communities Forum. Aled has also produced and taken part in a number of services and celebrations to mark national events, including the inauguration of the National Assembly for Wales in 1999, the Wales Remembers event to mark the 60th anniversary of the ending of the Second World War in 2005, and last year's UK Police Federation Memorial Service held in Saint David’s Hall, Cardiff.
 
A regular broadcaster on Welsh and English language radio and TV, Aled has authored a number of works, including Transforming Power - A Christian Reflection on Welsh Devolution and co-wrote  Considering Contrasts and Futures - A Faith Reflection on Devolution with Graham Blount, the Scottish Churches Parliamentary Officer. He writes weekly articles for BBC Wales’ Welsh language website Cymru’r Byd.
 
The Revd Aled Edwards succeeds the Revd Gethin Abraham-Williams, who retires as CYTÛN Chief Executive at the end of August. Welcoming Aled's appointment, Gethin said, 'CYTÛN is blessed to have a candidate with his background and experience, and it gives me great satisfaction to know that he will succeed me in this wonderful ministry of helping the Churches to discover what they have in common and how they can work together in mission and service in the new Wales and beyond.'
 
Aled is married to Marie, a speech and language therapist. They have three grown-up children: Seimon, Meleri and Steffan.
 
He has a passionate interest in Welsh rugby and supports the Llanelli Scarlets. His other hobbies include watching Star Trek and the hit American political show The West Wing.
 
For further information:
Revd Aled Edwards 0775 144 6071

(Members of CYTÛN: Churches Together in Wales are: Church in Wales, Presbyterian Church of Wales, United Reformed Church, Methodist Church, Covenanted Baptist Churches of the Baptist Union of Great Britain, the Roman Catholic Church, the Union of Welsh Independents, the Baptist Union of Wales, the Congregational Federation, the German Speaking Lutheran Church, the Salvation Army, and the Religious Society of Friends.)

======================================================================


© penllyn.com 2000-9