Archif Newyddion / News Archive

June 2000

Fforwm Bro i Llyn Posted Thursday, June 1, 2000 by penllyn
Daeth tua 30 o bobl ynghyd i gyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd ddiwedd Mai i drafod pris uchel y dreth. Roedd y cyfarfod yn un o gyfres a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghanolfan Llaniestyn. Y gwyn bennaf oedd fod pris y dreth yn codi yn sylweddol bob blwyddyn ac nad ydyw’n amlwg i bobl Llyn ar be yn union y mae’r arian yn cael ei wario.
‘Mae’r dreth dros £5OO, a wela i ddim ein bod ni’n elwa fawr ddim ohoni,’ meddaiTeleri Wyn Jones o Laniestyn, sydd wedi bod yn weithgar yn trefnu’r cyfarfodydd hyn. Daeth y Cyng Seimon Glyn, E.B. Hughes o Bwllheli ac Evie Griffith o Fotwnnog i’r cyfarfod i ffurfio Panel a buont yn ateb cwestiynau ac yn egluro beth sy’n digwydd i arian y dreth. Eglurodd y Cyng Seimon Glyn fod y dreth, mewn gwirionedd, yn talu am lawer iawn o wasanaethau. Cred mai un broblem yw fod y cysylltiad rhwng yr awdurdodau lleol ac ardalwyr Llyn wedi pellhau ers yr adrefnu Llywodraeth Leol, a chysylltiad wedi’i golli.
Yn dilyn y cyfarfod mae Cyngor Gwynedd yn ystyried cais i sefydlu Fforwm Bro, lle gall ardalwyr drafod eu pryderon gydag uwch-swyddogion y Cyngor. Beth yw eich barn am hyn? Fyddech chi’n manteisio ar gyfle felly? Bydd cyfarfod eto yn Nghanolfan Llaniestyn ar Fehefin 19 am 8 o'r gloch, Beth ydy’ch teimladau chi am y dreth? Mae croeso cynnes i unrhyw un fynd i roi eu barn neu eu sylwadau. Neu estynnwch am bapur a beiro a tarwch lythyr i’r Llanw. Byddem yn croesawu unrhyw drafodaeth.
(o'r llanw mehefin 2000)


© penllyn.com 2000-9