Archif Newyddion / News Archive

July 2000

Y Mewnlifiad yn ei ôl Posted Saturday, July 1, 2000 by penllyn
Ddeng mlynedd yn ôl roedd pryder bod prisiau tai’n codi ac yn mynd allan o gyrraedd pobol leol. Heddiw, mae’n edrych yn debyg iawn ein bod ni mewn sefyllfa debyg.
Mae eiddo - tai a busnesau -fu ar werth am gyfnod hir flwyddyn a mwy yn ô1 heb i neb ddangos diddordeb ynddyn nhw, bellach yn gwerthu o fewn wythnosau i gyrraedd y farchnad. Clywyd am un gwerthwr tai yn cael ymholiadau dros y ffôn yn holi a oedd ganddo eiddo ar werth yn Abersoch ac yn gorfod dweud nad oedd ganddo ddim ar ô1 heb ei werthu. Clywyd yn ddiweddar hefyd am lain o dir yng ngolwg y mar a hawl cynllunio ar gyfer un ty arno, eto yn Abersoch, yn gwerthu am yn agos i chwarter miliwn.
Un arwydd o faint y mewnlifiad i’r ardal yw pa mor brysur yw’r Uned Arbennig i Ddysgwyr sydd yn Ysgol Llangybi. Pan ddaw plant sy’n ddi-Gymraeg i ysgolion ardal Dwyfor, gall penaethiaid yr ysgolion eu cyfeirio i’r uned am dymor er mwyn cae1 cwrs carlam i ddysgu’r Gymraeg. Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r uned wedi bod yn brysur, ond yn anaml yn llawn. Ers Medi llynedd fodd bynnag, mae wedi bod yn llawn ac mae rhestr aros ar gyfer y tymor nesaf.
Mae’r Cynghorydd Seimon Glyn, sy’n gyn-gadeirydd Pwyllgor Tai Cyngor Gwynedd yn bryderus am y sefyllfa. Mae’r mewnlifiad yn ei ô1 yn sicr,’ meddai. ‘Mae o’n llifo yn hytrach na diferu y dyddia’ yma, ac mae hynny’n saff o gael effaith ar brisiau tai. Fe1 arfer mae prisiau tai yn adlewyrchu cyflwr yr economi leol, ond yma, er bod yr economi gyda’r gwana’ mae’r ardal ymhlith y pump uchaf yng Nghymru o ran prisiau tai. Mae mwy o dai ar werth na sydd eu hangen yn lleol.’
Mae Seimon Glyn yn gobeithio y bydd Cyngor Gwynedd mewn sefyllfa i ddylanwadu ar y sefyllfa o eleni ymlaen. Ers dechrau’r flwyddyn, y cynghorau sir yn hytrach na’r cwango Tai Cymru sy’n gyfrifol am lunio strategaeth tai. “Rydw i’n awyddus i weld strategaeth newydd y cyngor yn adlewyrchu’r galw lleol am dai a’n bod ni’n tynhau’r diffiniad o pwy sy’n berson lleol,’ meddai.
(o'r llanw gorffennaf 2000)


© penllyn.com 2000-9