Cronfa Datblygu Cynaliadwy Posted Monday, July 7, 2008 by penllyn
Cronfa Datblygu CynaliadwyGrantiau ar gyfer prosiectau ynArdal o Harddwch Naturiol Eithriadol LlynArdal o Harddwch Naturiol EithriadolMae Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yn dirweddau sy’ngenedlaethol bwysig ac wedi eu dynodi ar sail eu harddwch gweledolarbennig. Mae 5 AHNE yng Nghymru sef Penrhyn Llyn,Ynys Môn, BryniauClwyd, Penrhyn Gwyr a Dyffryn Gwy.Mae Penrhyn Llyn yn adnabyddus am ei arfordir amrywiol a diddorol a’rtirlun hardd a oedd y prif sail dros ddynodi’r ardal yn AHNE yn ôl yn 1956.Mae oddeutu chwarter y Penrhyn Lly^ n, cyfanswm o 15,500 hectar, oddimewn yr ardal ddynodedig gyda’r rhan fwyaf yn dir arfordirol ond hefyd ynymestyn i mewn i’r tir i gynnwys yr ardal o amgylch Garn Fadryn. Mae’rmap isod yn dangos union ffiniau’r AHNE:Beth yw’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy?Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn ffynhonnell grant ar gyfer prosiectauamgylcheddol, economaidd a chymunedol sydd yn datblygu, ac yn arbrofidulliau mwy cynaliadwy o fyw mewn Ardaloedd o Harddwch NaturiolEithriadol. Mae “cynaliadwy” yn golygu cydbwysedd rhwng anghenioncymdeithasol ac economaidd presennol a’r angen i warchod yr amgylchedda buddiannau cymunedau’r dyfodol.Gall y Gronfa hefyd roi cefnogaeth i brosiectau mewn ardaloedd sy’n agosi’r AHNE lle gellir dangos yn glir fod budd uniongyrchol i’r ardalddynodedig.Y Cynulliad Cenedlaethol sydd wedi sefydlu’r Gronfa hon a bydd y grant yncael ei weinyddu gan Uned AHNE Lly^n mewn cydweithrediad gyda CyngorCefn Gwlad Cymru.Pwy all ymgeisio ?• Grwpiau cymunedol, gwirfoddol neu bartneriaethau;• Cynghorau cymuned;• Awdurdodau lleol;• Y sector preifat (am brosiectau o ddiddordeb cyhoeddus ehangach);• Unigolion (am brosiectau o ddiddordeb cyhoeddus ehangach);Pa fath o brosiectau a gefnogir ?Cefnogir prosiectau sy’n cyd-fynd ag amcanion y Gronfa ac sydd o fudd i’rArdal o Harddwch Naturiol Eithriadol, megis prosiectau sydd yn:• Cynnal neu wella harddwch naturiol y tirlun a’r arfordir yn cynnwysnodweddion lleol;• Cofnodi a hybu lles bywyd gwyllt lleol;• Cofnodi a chynnal olion hanesyddol;• Cynnal ac adfer adeiladau a strwythurau hanesyddol pwysig;• Hybu datblygiad cymdeithasol a diwylliannol;• Hybu mentrau economaidd cynaliadwy;• Codi ymwybyddiaeth a hybu cyfleon i ddysgu am wahanol nodweddion yrardal;• Datblygu a gwella cyfleon i weld a mwynhau’r AHNE.Os bydd llawer o geisiadau rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy’n:• Arddangos syniadau arloesol neu arfer da;• Rhoi cyfle i bobl ifanc a chymunedau lleol fod yn rhan ohonynt;• Yn denu cyfraniadau o ffynonellau eraill, yn ariannol ac mewn nwyddauneu wasanaethau;• Yn cynyddu dealltwriaeth o gynaliadwyedd ac yn hybu ffyrdd mwycynaliadwy o fyw.Enghreifftiau o brosiectau a allai gael eucefnogi:• Prosiectau gan ysgolion megis rheoli tir ar gyfer bywyd gwyllt, cofnodihanes lleol a diwylliant;• Prosiectau i leihau’r defnydd o foduron a chynyddu gweithgareddauhamdden iachus;• Tacluso tiroedd mewn pentrefi er lles y gymuned ac ar gyfer bywyd gwyllt;• Adfer nodweddion hanesyddol lleol e.e. llyn y pentref, perllan gymunedol,ffiniau traddodiadol;• Rhaglenni hyfforddiant i ddiogelu sgiliau traddodiadol e.e. codi waliaucerrig, plygu gwrychoedd a rheolaeth gadwriaethol.Grant a chyfraddau grantMae cyfanswm o £50,000 yn y Gronfa ar ddechrau bob blwyddyn ariannol(Ebrill). Gellir gwneud ceisiadau am grantiau bychan hyd at £1,000 neugrantiau mwy hyd at uchafswm o £25,000. Isod gwelir canllawiau ariannolcyffredinol y gronfa:• Rhoddir grant tuag at ddatblygu prosiectau, a rheoli prosiectau(costau staff);• Fel arfer rhoddir hyd at 50% o grant ond rhoddir hyd at 75% mewnachosion haeddiannol a chyfradd uwch eto mewn achosion arbennig;• Disgwylir i ymgeiswyr dalu o leiaf 25% o’r costau, o gyllid eu hunain neudrwy gyllid o ffynonellau eraill. Gall gwaith gwirfoddol fod yn gyfraniadmewn math tuag at gostau’r prosiect;• Fel arfer bydd taliadau yn cael eu gwneud ar ôl i’r prosiect gael ei gwblhau.Enghreifftiau o Brosiectau yn Lly^nProsiect Cadw’r Lliw yn Lly^nProsiect sy'n anelu i gynyddu a gwella ansawdd rhostir arfordirol ac iseldirLly^n ac Eifionydd yw Cadw’r Lliw yn Lly^ n. Mae’n brosiect tair blynedd areolir gan swyddog llawn amser dan reolaeth Partneriaeth Lliw yn Lly^ n, sy'ncynnwys cynrychiolwyr o chwe sefydliad.Mae’r prosiect yn goruchwylio gwaith cynnal a chadw a gwarchod ar 12 osafleoedd rhostir. Mae hyn yn cynnwys gwaith rheoli rhedyn a phlanhigionymledol eraill, darparu ffensys gwell, rheoli pori a monitro newidiadau yn ycynefin a’r bywyd gwyllt.Bydd y prosiect hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth a meithrindealltwriaeth o rostiroedd drwy wella llwybrau cyhoeddus ar y safleoedd,cynhyrchu deunydd addysgol a chodi ymwybyddiaeth drwy’r wasg.Gweler y wefan am fwy o wybodaeth - www.lliwynllyn.orgMurlun Canolfan y Babell, LlanaelhaearnEglwys LlandegwningProsiect yw hwn i ddathlu treftadaeth yr ardal drwy greu murlun ar gyferCanolfan y Babell i gofnodi a dathlu hanes pobol o’r ardal a gweithgareddaulleol. Rhoddodd y prosiect gyfle i 30 o blant Ysgol Gynradd Llanaelhaearn iweithio gyda’r artist, Beverly Bell-Hughes i greu cyfanwaith ceramig.Yn ychwanegol i hyn, rhoddodd gyfle i drigolion lleol a rhieni gyfrannu drwygefnogi sesiynau gweithdai a darparu ymchwil o hanes lleol. Bu’r prosiect yncyfrannu tuag at ddatblygiad addysgiadol y plant ac yn darparu cyfleoedd iddysgu am hanes lleol ynghyd â thraddodiadau diwylliannol yr ardal.Ffurfiwyd Cyfeillion Eglwys Llandegwning yn dilyn apêl leol panbenderfynwyd gwerthu’r eglwys ar y farchnad agored yn2001. Mae’r eglwys yn adeilad rhestredig gradd II, yn dyddioyn ôl i 1840, ond wedi ei hadeiladu ar sylfeini cynharach.Sefydlwyd pwyllgor, sydd erbyn hyn yn gwmni cyfyngedigdrwy warant, a chyda chymorth grant o’r Gronfallwyddwyd i brynu lês yr eglwys a’i hadfer i gyflwr da.Hefyd gosodwyd arddangosfa barhaol yn dathluhanes yr ardal yn yr eglwys er rhoi gwybodaethi bobl leol ac ymwelwyr sydd â diddordebmewn hanes lleol, adeiladau hanesyddol neudaith y Pererinion i Enlli.Gwybodaeth bellach ac ymgeisio am grantAm ragor o wybodaeth a ffurflen gais cysylltwch â’r Uned AHNE, gweler ymanylion isod:UNED AHNE LLYNGwasanaeth Cynllunio a Thrafnidiaeth,Cyfadran Amgylchedd,Cyngor Gwynedd,Pwllheli,Gwynedd,LL53 5AAFfôn: 01758 704 155/ 176E-bost:AHNELlynAONB@gwynedd.gov.uk^
|