Archif Newyddion / News Archive

September 2000

75 Mlwyddiant Plaid Cymru Posted Friday, September 1, 2000 by penllyn
Daeth cannoedd o bob cwr o Gymru i Bwllheli ddiwedd Gorffennaf i ddathlu 75 Mlwyddiant Plaid Cymru ac i orymdeithio tu ô1 i Seindorf Arian Llanrug trwy’r dref i’r Maes, ble cynhaliwyd rali. Dadorchuddiwyd plac gan Dafydd Wigley ar adeilad y ‘temprans’ lle cynhaliwyd cyfarfod sefydlu’r Blaid 75 mlynedd yn ô1.
Traddododd Dafydd Wigley ei araith olaf fel llywydd y Blaid, ‘Gyda diolch i weledigaeth Saunders Lewis a’i gyfeillion 75 mlynedd yn ô1, mae gennym hanes balch fel Plaid. Rydym yn edrych ymlaen i’w weledgiaeth o hunanlywodraeth o fewn Ewrop,’ meddai . Daeth y dathliadau i ben gyda chinio a chin gan Dafydd Iwan y n g Ngwesty’r Nanhoron, Nefyn.
(o'r llanw medi 2000)

Pen Llyn ar y we Posted Friday, September 1, 2000 by penllyn
Mae yna safle newydd cael ei lansio ar y we ar gyfer pobol Llyn. Bwriad Seimon Jones, Ty Cape1 Pen-y-graig, Llangwnnadl, sydd wedi ffurfio partneriaeth penllyn.com, ‘Nod y safle,’ yn ô1 Seimon, yw cael un safle sy’n cynrychioli’r ardal i gyd. Mae’n cael ei rhedeg gan bobol leol er mwyn pobol leol ac mae’n agored i bawb.
Roeddwn i wedi teimlo ers tipyn nad oedd cyrff fel Y Bwrdd Croeso a’r Cyngor Sir yn gneud digon yn y cyfeiriad yma, felly rydw i wedi penderfynu ei neud o fy hun.’ Yn barod mae Seimon Jones wedi cysylltu efo’r Cynghorau Cymuned sy wedi bod yn gefnogol i’r syniad. Mae cyfle i bob busnes, mudiad, cymdeithas neu unigolyn sydd â chyfeiriad e-bost neu safle ar y we i roi eu cyfeiriad yn rhad ac am ddim ar safle penllyn.com. Mae'r cwmni hefyd yn cynnig gwasanaeth darparu safleoedd newydd i’r rhai sy’n bwriadu cael eu safle eu hunain.
0 fis Medi ymlaen, trwy gysylltu â penllyn.com bydd yn
bosibl darllen Ilanw Llyn ar y we. Bydd tudalennau o’r papur yn cael eu postio ar safle’r Llanw-
http://www.penllyn.com/llanw/
Mae’n bosibl i bwy bynnag sydd eisiau mwy o wybodaeth gysylltu â Seimon Jones trwy yrru e-bost i seimon@penllyn. com , neu drwy ffonio Tudweiliog 770468.
(o'r llanw Medi 2000)


© penllyn.com 2000-9