Archif Newyddion / News Archive

September 2002

GWYL PWYL LLYN POLISH FESTIVAL Posted Tuesday, September 17, 2002 by penllyn
Bydd ei Ardderchowgrwydd Dr Stanislaw Komorowski – sef Llysgennad Gwlad Pwyl ym Mhrydain – ymysg yr ymwelwyr i wyl Pwyl Llyn yn Llanbedrog ddiwedd y mis.

Mae Cymdeithas Twristiaeth Llyn mewn cydweithrediad a Chymdeithas Tai Pwyliaid Penrhos am gynnal gwyl ddiwylliannol i ddathlu’r berthynas glos sydd wedi datblygu rhwng preswylwyr ‘y camp’ a’r gymuned Gymreig leol dros yr oddeutu hanner can mlynedd diwethaf.

Hefyd yn bresennol fydd Maer tref o lan môr y Baltig yn ardal Pomerenia, Gwlad Pwyl – tref o’r enw Leba (ehangu’r L fel ‘V’ Saesneg) – ynghyd a swyddog arall oddi yno.

Enw’r Maer yw Andrzej Cyranowicz, fydd yn dod i Lyn gyda phennaeth Cyngor Tref Leba Maciej Multaniak. Roedd Mr Multaniak hefyd yn gyfrifôl am arwain cynlluniau i adeiladu Marina Leba, ble cynhaliwyd Pencampwriaeth Syrffio Bwrdd y byd yn ddiweddar. Yno bu i ferch ifanc o Lanbedrog, Lucy Horwood, ennill y fedal arian yn y maes.

Mae’r ddau swyddog o Wlad Pwyl yn teithio i Gymru i fagu cysylltiadau gyda swyddogion Tref Pwllheli a chymunedau lleol eraill. Mae’r ddau Gyngor Tref eisoes wedi datgan diddordeb i drafodaethau gychwyn yn yr wyl eleni all arwain at broses o efeillio yn y dyfodol. Yn ystod ei hymweliad bydd y Pwyliaid yn ymweld â Swyddogion Cyngor Gwynedd, Dafydd Wigley/Hywel Williams, Hafan a Chlwb Hwylio Pwllheli, ynghyd a safleoedd eraill.

Bydd yr wyl ei hyn yn cychwyn ar Nos Iau y 26ain o Fedi gyda pherfformiad fywiog gan ‘Grw^p Dawnsio Seremoni Chonje’, Gwlad Pwyl, yn Neuadd Dwyfor Pwllheli.

Mae’r wyl wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Fanc yr HSBC a Chronfa Datblygu’r Amgylchedd Cyngor Gwynedd.

Yn gefnogol i’r syniad o’r cychwyn mae Dafydd Wigley AC, a Hywel Williams AS, yn awyddus iawn i fynychu’r digwyddiadau. Mae ASE Plaid Cymru Eurig Wyn hefyd wedi datgan diddordeb, yn enwedig yn y siawns i gysylltiadau parhaol ddatblygu rhwng Penrhyn Llyn a chymuned yn Pomerenia.

Yn ôl swyddog Marchnata Cymdeithas Twristiaeth Llyn Gwyn Jones:

Mae’r lefel o gefnogaeth i’r wyl wedi bod yn sylweddol ac yn sbardun imi fwrw ‘mlaen a’r trefniadau. Yn fy marn i mae’n fantais amlwg i ddiwydiant twristiaeth Cymru ehangu gorwelion a chwilio am farchnadoedd newydd. Yn anorfod gall hyn hefyd wrth gwrs fod o fantais i’r Iaith Gymraeg a’n diwylliant.
Da buasai gweld cysylltiadau parhaol yn deillio o’r wyl ‘lenni. Mae tref Leba yn rhannu nifer o ddelweddau tebyg iawn i Bwllheli, e.e. Mae Hafan lwyddiannus yn y ddau le. Swyddogion y trefi yma fydd wrth gwrs yn penderfynu pa gamau sydd i’w cymeryd nesa’.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Gwyn Jones ar 01758 613136, neu
07736539645
gwyn@lleyntourism.com
Mae posib hefyd cael mwy o wybodaeth am yr wyl ar: www.lleyntourism.com

-----------------------------------------------------------------------------------

His Excellency Dr. Stanislaw Komorowski – the Polish Ambassador in the UK - will be amongst the visitors to the inaugural Llyn Polish Festival in Llanbedrog, later this month.

The Llyn Tourism Association in co-operation with the Polish Housing Society at Penrhos has decided to celebrate the unique relationship that has developed between residents at the site and the local Welsh Community, since the Second World War.

Also in attendance will be the Mayor of the Pomeranian town of Leba – Andrzej Cyranowicz, and the Leader of the town Council Maciej Multaniak. Mr Multaniak was also behind the construction of Leba Marina, which last year hosted the world windsurfing championship, where Llanbedrog born Lucy Horwood secured a silver medal.

Officials at Leba and Pwllheli town councils have given the go-ahead for possible twinning talks to begin at this year’s festival, which starts on September the 27th with a performance at Neuadd Dwyfor Pwllheli by a dance-ceremonial group from Chonje in Poland.

The festival supported by the HSBC Bank and Gwynedd Council will be a cultural celebration of traditional Welsh and Polish music and dance. (Please ensure sponsors are mentioned in any publication)

Local Assembly member Dafydd Wigley and Member of Parliament Hywel Williams have supported the festival right from the start. MEP Eurig Wyn is also keen to see cross-cultural links developing with countries such as Poland, which look set to be joining the European Union within the next couple of years.

Llyn Tourism Association Marketing and Events Officer Gwyn Jones says:

In organising this particular event the degree of top-level support forthcoming has been very encouraging. It is of obvious benefit to the Welsh tourism industry and inextricably the Welsh language and culture, if we broaden our horizons and potential markets. As to a permanent relationship being formed; Leba offers a perfect opportunity for some form of links to be made, be it by twinning with Pwllheli, or the top class Marinas present in both towns.

For further information please contact Gwyn Jones on 01758 613136
07736539645
gwyn@lleyntourism.com
Information on the festival can also be obtained via: www.lleyntourism.com

Outline

GWYL PWYL LLYN POLISH FESTIVAL
POLSKI FESTIWAL LLYN


THURSDAY 26TH SEPTEMBER

A live performance at Neuadd Dwyfor Pwllheli (Town Hall) by the Dance Ceremonial Group of Chonje, Poland.
Tickets £6 - £4 concessions.
Hywel Williams MP to launch the festival.


FRIDAY 27TH SEPTEMBER

Guided tour of the Llyn Peninsula in the morning. Led by local historian John Dilwyn Williams.

7pm – Folk dancing ‘Twmpath’ with ‘Band Arall’ followed by a
Musical Concert
Trebor Lloyd Evans - Baritone
Local choir – Côr Gwytheyrn.
Elair Grug - Local Harpist.
And more!

SATURDAY 28TH SEPTEMBER

3pm – 6pm – Cultural song and dance festival at Penrhos.
Polish Dancing group from Manchester.
Côr Meibion Dwyfor Male Voice Choir.
Polish Cuisine.

Evening banquet at Oriel Glyn-y-Weddw– Welsh produce.
Glyn Williams Tenor, Myfanwy Roberts Soprano
Elen Hydref – Harpist
Elin Thomas – Singing
Iwona Boesche - violin.
Jan Rautio - piano

SUNDAY 29TH SEPTEMBER

Church service to close the festival. Rev. Andrew Jones organising.

To add to this is a special exhibition at Oriel Plas Glyn-y-Weddw Arts Centre of works by Polish Artists. Local taverns and restaurants will also offer special menus and entertainment.

Coleg Meirion Dwyfor Posted Saturday, September 14, 2002 by penllyn
M ae Coleg Meirion Dwyfor yn croesawu yn ol, un ou cyn ddisgyblion fel darlithiwr yn y coleg. Bu Dafydd Gwyn yn ddisgybl yn y coleg o 1995 I 1997, wedyn yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei wyneb yn adnabyddus gan ei fod wedi bod yn acdio yn y cyfresi teledu-Rownd a Rownd a Phwoar . Bydd yn cychwyn ar ei waith fel darlithiwr mewn addysg gorfforol ym Mhwllheli eleni. Dywed Dafydd ei fod yn falch o gael bod yn ol yn y coleg ac o gael gwaith yn agos iw gartref.

Coleg Meirion Dwyfor will be welcoming an ‘old boy’ back as a lecturer. Dafydd Gwyn attended the college between 1995 and 1997, before moving on as a student at Cardiff University. Dafydd will be recognised by his students from the S4C program Rownd a Rownd. Dafydd said he was happy to be back at Pwllheli and to have found work close to home.

Cygnor cymuned Adberdaron Community Council Posted Thursday, September 12, 2002 by penllyn
Croesawyd Delyth Wyn Jones, Argraig ar y cygnor cymuned yn Adberdaron. Mae Delyth wedi bod yn fyfyrwraig yn Ysgol Botwnnog’ Coleg Meirion Dwyfor a Phrifysgol Bangor lle graddiodd mewn Llenyddiaeth Gymraeg a Llen y Cyfryngau. Mae Delyth yn 23 oed ac yn teimlo ei bod yn bwysig fod pobl ifanc yn aros yn yr ardal.

A new face was welcomed to the Aberdaron community council last week. Delyth Wyn Jones, 23 of Argraig Aberdaron was a former pupil at Botwnnog and Coleg Meirion Dwyfor before moving on and achieving a degree in Welsh Literature at Bangor university. Delyth said she thought it was important that young local people had the opportunity to stay in their communities.

Dwr Aberdaron Water Posted Thursday, September 12, 2002 by penllyn
Yr wythnos diwethaf yn Aberdaron cafwyd byrsd dwr rhwng toiledau’r cyngor a’r Bont Fawr, bu gweithwyr Dwr Cymru yno yn ei drwsio drwy’r dydd dyma’r ail fyrsd o fewn wythnos yn Aberdaron.

Ageing water mains in Aberdaron seem to be showing their age last week. A burst mains between the bridge and the council toilets was the second in a week, and water board workers were working on this latest leak all day last week.

Cyngor Tref Nefyn Town Council Posted Sunday, September 8, 2002 by penllyn
Yng nghyfarfod cygnor tref Nefyn derbyniwyd ddraft ymgynghorol Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd. Bydd y cynllun yn ffurfio sail ar gyfer cynllun datblygu’r economi a datblygu cynlluniau grantiau. Cafwyd llythur hefyd gan y Cyngor Cefn Gwlad ynglyn a’r arfordir yn Nefyn. Bydd y cyfarfod nesaf (yn agored I’r cyhoedd) yn y Ganolfan dydd Mawrth 10ed am 7.00.

Nefyn Town Council received the draft unitary development plan for Gwynedd. This plan will form the basis for planned economic development and the formulation of grant schemes. They also received a letter from the Countryside council regarding the shoreline around Nefyn. The next meeting ( open to the public ) will be held on Tue. 10 at 7pm at Y Ganolfan.


© penllyn.com 2000-9