Gwyl Pen Draw’r Byd Posted Sunday, September 28, 2003 by penllyn
Mi dywynnodd yr haul ar wyl Pen Draw’r Byd eto eleni. Cafwyd cystadlu brwd ar y môr ac ar y traeth yn ogystal ag arlwy o farddoniaeth a cherddoriaeth draddodiadol a chyfoes. Hogia’r Mynydd, Pwy ’Sa’n Meddwl a Catrin a Nia lwyddodd i lenwi Canolfan Crud y Werin nos Wener. Cychwynnodd y gweithgareddau ddydd Sadwrn gydag agoriad swyddogol y Cae Chwaraeon newydd gan Alun Ffred Jones A.C. o dan nawdd Cymunedau’n Gyntaf Llyn.
Y perfformwyr ar y traeth ddydd Sadwrn oedd Band Jas Botwnnog, Bechdan Jam, Mim Twm Llai a Meinir Gwilym - rhes o grwpiau gorau Cymru ar hyn o bryd, ac roedd cael cyfle i wrando arnynt yn yr haul yn Aberdaron yn wefreiddiol. Bu’r plant wrthi’n dysgu sgiliau syrcas ac yn creu celf yn y tywod. Yr enillwyr oedd Criw Llanbedrog, Criw Rhoshirwaun - Iwan a Danial a’r teulu’n ail, a Criw Celt Caernarfon yn drydydd. Enillwyr y ras rafftiau oedd criw Pendref, Sarn.
quicktime movie - http://www.penllyn.com/calpics/aberdaron.mov
Roedd na gystadlu o ddifri ar y Ras Rhwyfo a Rhedeg eleni gyda chwe cwch hir yn y gystadleuaeth. Yr enillwyr oedd criw’r Mererid o Bwllheli a’r enillwyr lleol (Brenin y Bae) oedd criw Modurdy Tegfan. Bu cystadlu brwd tan hwyr y nos ar y pêl droed, a phawb yn mwynhau. Daeth yr wyl i ben gydag Ymryson Stomp yng Ngwesty’r Ship nos Sul. Bu’n fwrw Sul bendigedig llawn hwyl. Diolch i bawb fu’n gweithio i drefnu’r cwbwl ac i bawb ddaeth yno i sicrhau’r llwyddiant.
Menter yr Eifl Posted Friday, September 26, 2003 by penllyn
Menter yr Eifl - Da yw gweld y siop a Swyddfa’r Post wedi ail agor ac ar ei newydd wedd. Pob llwyddiant i Anwen ac Alun yn y fenter.
Cerflun Plas Glyn y Weddw Posted Thursday, September 25, 2003 by penllyn
Mae’n dda clywed fod yr heddlu wedi dod o hyd i ‘Louise’ y cerflun oedd yn sefyll yng ngerddi’r Plas. Mae bellach yn ôl yn y Plas. Mae cerflun arall wedi dod i’r Plas, sef cerflun marmor wnaed yn Rhufain ym 1879. Mae’r cerflun wedi ei roi ar fenthyg i’r Oriel gan Goleg Meirion-Dwyfor. Roedd yn sefyll yn wreiddiol yng Nghastell Madryn a’i symud i Blas Glynllifon pan gaewyd y Coleg Amaethyddol ym Madryn yn 1952. Da gweld y cerflun yn dychwelyd i safle sydd â chysylltiad mor agos â’r lleoliad gwreiddiol.
Carnifal Sarn Posted Thursday, September 25, 2003 by penllyn
Yn nechrau Gorffennaf cafwyd cyngerdd gyda Dilwyn Pierce, Edward Morris Jones a Phigyn Clust a choronwyd y frenhines Siân gan y gyn-frenhines Ellen, Ty Capel Rhydlios. Roedd y neuadd yn llawn a’r tywydd yn hynod braf. Yna pnawn Sadwrn cafwyd cystadlaethau’r carnifal dan ofal Brenda Ch. Williams a’r beirniaid oedd Gillian Walker a Gaby Williams. Diolch yn fawr iawn i bawb a gefnogodd. Aeth elw eleni i’r ambiwlans awyr ac i’r bad achub.
Canlyniadau’r carnifal oedd: Gwisg ffansi: Dan 5 - 1. Mari, Botwnnog; 2. Jake, Sarn; 3. Katie, Llannor. Dan 8 - 1. Sion Lloyd, Botwnnog. Dros 8 a dan 12 - 1. Henry, Sarn; 2. Sam, Pwllheli, 3. Nerys, Rhoshirwaun. Dyn mewn dillad dynas - Sam, Pwllheli; 2. Henry, Sarn. Cystadleuydd gorau’r carnifal - 1. Henry, Sarn. Miss Ciwt - 1. Louise, Llangwnnadl; 2. Katie, Llannor; 3. Mair, Bryncroes/Mari, Botwnnog. Mr. Ciwt - 1. Huw, Botwnnog; 2. Osian, Sarn. Brenhines wedi’i gwisgo orau - 1. Katie, Llanbedrog; 2. Sioned, Botwnnog; 3. Fflur, Pwllheli. Gwas gorau - 1. Rhys, Bryncroes; 2. Osian, Rhoshirwaun; 3. Gwion, Llanbedrog/Huw, Llanystumdwy. Morwyn dan 10 - 1. Caryl, Rhoshirwaun; 2. Kiowa, Bryncroes; 3. Nerys, Rhoshirwaun. Morwyn dros 10 - 1. Myfanwy, Pwllheli; 2. Elin, Bryncroes; 3. Sian, Llannor. Rhosyn - 1. Katie, Llannor; 2. Caryl, Rhoshirwaun; 3. Elen, Sarn. Tywysoges - 1. Emma, Llanbedrog; 2. Ruth, Botwnnog; 3. Sioned, Botwnnog. Tywysog - 1. Huw, Llanystumdwy; 2. Rhys, Bryncroes; 3. Gwion, Llanbedrog. Brenhines a’i Llys - 1. Sarah, Rhos-hirwaun. Rafflau - Mrs. Ellis, Graig; Ann, Cartrefle; Ellen, Rhydlios; Eleanor, Sarn; Alwenna, Sarn; Gwyneth, Botwnnog a Katie May, Bryncroes. Llun o’r felin - Ella Williams (Ty Newydd Sarn, gynt). Rhosyn y carnifal - 1. Caryl, Rhoshirwaun; 2. Fflur, Llanystumdwy; 3. Branwen, Llanystumdwy/Nerys, Rhoshir-waun. Briallen y carnifal - 1. Fflur, Pwllheli; 2. Sioned, Botwnnog; 3. Emma, Llanystumdwy. Mr. Tarsan - 1. Daniel, Bryncroes; 2. Huw, Llanystumdwy; 3. Sion Lloyd, Botwnnog. Mrs. Carnifal - Davina, Botwnnog. Nain - Gwladys, Llangwnnadl.
Clwb y Berthan Posted Thursday, September 25, 2003 by penllyn
Ar ddiwedd y tymor diwethaf, mwynhaodd yr aelodau drip i Ynys Môn. Gan fod Clwb Daron, Aberdaron yn mynd yr un ffordd ar yr un diwrnod, penderfynwyd ymuno â hwy, a chawsom drip i’w gofio. Wedi cael cinio a seibiant yn Pringles, yn Llanfairpwll, ymunodd y Parch. Emlyn Richards â ni, ac aeth â ni ar hyd ffyrdd y porthmyn am Gaergybi, a chael hanesion difyr ar hyd y ffordd. Wedi aros i weld y llongau’n gadael Caergybi, cawsom fynd i weld Eglwys fach Llanfugail, lle’r oedd y ficer, Edgar Jones (Llaniestyn gynt) yn barod i ddweud hanes yr Eglwys. Yna, te ym Melin Llinon, ac edrych o gwmpas, cyn cyrraedd, wedi gweld rhyfeddodau cefn gwlad Ynys Môn, i gael swpar blasus yn Amlwch. Diolch i bawb fu’n trefnu’r daith.
arddangosfa grefftau Rhiw Posted Thursday, September 25, 2003 by penllyn
Cafwyd dwy arddangosfa grefftau yn y neuadd yn ystod yr haf. Daeth amryw o bobl ddawnus i arddangos eu gwaith a’r gefnogaeth yn dda iawn. Taith gerdded gyda Margaret Dunn a gafwyd ar Awst 2, a lluniaeth ysgafn yn y neuadd i orffen. Diolch i bawb a fu yn cefnogi y gweithgareddau a rhoi arian yng nghoffrau y neuadd.
|