Archif Newyddion / News Archive

October 2002

Adnewyddu Canolfan Bryncroes Posted Monday, October 21, 2002 by penllyn
Mae cynlluniau ar y gweill i adnewyddu hen ysgol Bryncroes i greu lle mwy cyfforddus a hwylus i bawb fydd yn cyfarfod yno, ac i addasu'r ystafell ochr yn swyddfa.

Ar ôl trafodaethau diweddar rhwng Cyngor Gwynedd, Pwyllgor Cymunedau'n Gyntaf LIyn a phwyllgor y Ganolfan mae'n edrych yn debygol y bydd y Ganolfan yn dod yn swyddfa i gyd- lynydd Cymunedau'n Gyntaf yn ogystal A swyddogion eraill a fydd yn cael eu rhoi i weithio ar brosiectau penodol yn LIyn.

Mae pwyllgor 'Cymunedau'n Gyntaf' yn gobeithio eu bod wedi sicrhau arian ar gyfer gwneud unrhyw atgyweiriadau ac addasiadau angenrheidiol ac y byddan nhw'n cychwyn ar y gwaith cyn diwedd y flwyddyn. Mae hysbyseb am gyd-lynydd yn y wasg ar hyn o bryd.

Cae Chwarae gwerth £100,000 i LANBEDROG Posted Monday, October 21, 2002 by penllyn
Wedi blwyddyn o waith caled mae grwp o famau o Lanbedrog wedi sicrhau arian ar gyfer prosiect gwerth £100,000 i wella adnoddau cae chwarae'r pentref

Yr wythnos hon cawsant gadarnhad eu bod wedi bod yn Ilwyddiannus yn eu cais am grant gan Enfys (Cronfa Cyfleoedd Newydd) am y swm o £26,123. Maent eisoes wedi sicrhau swm o £19,000 o gronfa Cist Gymunedol Gwynedd ac wedi Ilwyddo i gasglu'r swm anrhydeddus o £10,000 trwy ymdrechion lleol.

Flwyddyn yn ôl daeth criw o famau at ei gilydd i gychwyn ar y gwaith. Eu targed oedd casglu £5,000. Wnaethon nhw ddim dychmygu y byddent yn casglu £10,000. Mae'r cynlluniau cyffrous ar gyfer y cae yn cynnwys offer chwarae newydd, parc sgIefrio, man picnic a safle pêl-fasged. Y flaenoriaeth ydy i'r gymuned i gyd gael mwynhad a budd o'r cae.

Meddai Sharon Tomos sy'n aelod o'r pwyllgor, 'Pan wnaethon ni ddechrau ar y prosiect wnaethon ni ddim dychmygu y byddai cymaint o waith ac egni'n mynd iddo. Mae'r flwyddyn wedi mynd yn ofnadwy o sydyn. Rydan ni wedi mwynhau ac wedi cyrraedd targed llawer uwch nag a wnaethom ddychmygu.'

Hoffai'r pwyllgor ddiolch i bawb sydd wedi eu cynorthwyo ac yn arbennig Arwel Jones, Swyddog Adfywio Cyngor Gwynedd.

Apêl am Wirfoddolwyr

Dydy'r gwaith ddim ar ben - mae'n un o amodau'r grant fod gwirfoddolwyr yn helpu i baratoi'r cae trwy lefelu, plannu coed a phlanhigion a ffensio. Felly gwneir apêl ar unigolion i ddod ymlaen i gynorthwyo. Mae hyfforddiant ar gael gan y grwp cymunedol BTCV sydd yn cynnig cyrsiau ffensio, creu Ilwybrau, plannu coed a sgiliau eraill, gyda thystysgrif yn cael ei rhoi ar ddiwedd y cwrs.
Mae'r gweithgareddau codi arian yn mynd ymlaen hefyd gydag ocsiwn addewidion i'w chynnal yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Cysylltwch A Sharon Tomos ar (01758) 740002 neu Helena Brady (01758) 741051.

Clwb Ieuenctid Pwllheli 2002-2003 Pwllheli Youth Club Posted Sunday, October 6, 2002 by penllyn
Gwybodaeth Clwb Ieuenctid Pwllheli 2002-2003
Ar agor o mis medi i mehefin bob Nos Fawrth a Nos Iau
7-9.30 o'r gloch yng nghalofan Frondeg 30c y noson.
Oedran derbyn yw 13-19oed (caniteir ddisgyblion blwyddyn 8
ysgol uwchradd ymuno on ni chaniateir iddyn gymerud rhan yn
y cystadleuthau cenedlaethol)
Mae rhaglen llawn ac amrywiol wedi ei ddarparu yn cynwys Celf
a Chrefft, Trin Gwallt, Coginio, Codi Arian, Bowlio Deg, Nosweithiau
Ganolfan Hamdden, Gweithgareddau yn y Cymuned, Sesiynau
trafodaeth ar Cyffuriau, Alcohol, Ysmygu, Addysg Rhyw a Cyfle
Cyfartal ayyb.
Croeso i bawb - Annette Ryan Arweinydd Ieuenctid

---------------------------------------------------------------------------------------

Pwllheli Youth Club is open from September to June every Tueday
& Thursday evening 7-9.30pm in Frondeg costing 30p per night.
Attendance age is 13-19yrs (those in year 8 of secondary school
are also allowed to attend but cannot compete in national
competitions)
A full & varied programme is arranged including Arts & Crafts sessions,
Hairdressing, Cookery, Fund raising, 10-Pin Bowling, Community
Activities & Projects, Competitions and Issue Based Sessions on
Drugs, Alcohol, Smoking, Sex Eduation, Equal Opportunities etc etc.
A warm welcome is extended to Pwllheli Youth.
Annette Ryan Youth Leader


© penllyn.com 2000-9